Cyngor atal trosedd yn niwrnod agored rheilffordd finiatur Glebelands
Roedd yn wych ymweld â Rheilffordd Finiatur Glebelands ddydd Sadwrn. Sgwrsiodd fy nhîm gyda llawer o ymwelwyr am amrywiaeth o faterion a gwnaethant rannu eitemau diogelwch cymunedol, gan gynnwys clychau pwrs.
Mae clychau pwrs yn rhwystro pyrsiau a bagiau rhag cael eu dwyn. Os hoffech chi gloch pwrs, chwiliwch am fy nhîm pan fyddan nhw allan yn y gymuned ledled Gwent.
Cafodd plant a phobl ifanc lawer o hwyl yn gwisgo iwnifformau’r heddlu ac roedd y tîm wrth eu bodd yn gweld sgiliau lliwio ardderchog y plant.
Roedd yn ddigwyddiad prysur a chafodd y tîm groeso cynnes gan wirfoddolwyr y gymdeithas. Mae diwrnodau agored y rheilffordd yn digwydd ar ddydd Sadwrn cyntaf bob mis rhwng mis Ebrill a mis Hydref.
Os hoffech chi i’r tîm fod yn bresennol mewn digwyddiad rydych chi’n ei gynnal yn y gymuned e-bostiwch fy swyddfa.