Cymunedau'n dod at ei gilydd i nodi mis Hanes LGBTQ+

1af Mawrth 2021

Yr wythnos diwethaf mynychodd fy nhîm ddeialiad cymunedol arbennig Heddlu Gwent fel rhan o Fis Hanes LGBTQ +.

Rwy'n falch bod Heddlu Gwent yn parhau i weithio gyda chymunedau LGBTQ+, gan mai dim ond trwy wrando a gweithredu yn sgil yr hyn mae ein cymunedau'n dweud wrthym y gallwn wella cydberthnasau a dangos empathi tuag at ddioddefwyr. Mae galwadau cymunedol yn galluogi aelodau o gymunedau amrywiol ledled Gwent i ddod at ei gilydd i siarad am yr effaith mae Covid-19 yn ei gael ar eu bywydau.

Mae'r tirlun cymdeithasol wedi newid dros y blynyddoedd ond yn anffodus mae casineb yn dal i fodoli tuag at gymunedau amrywiol. Mae addysg yn hollbwysig er mwyn newid y ffordd mae pobl yn meddwl ac yn ymddwyn. Mae Heddlu Gwent a'r Tîm NXT Gen yn gwneud llawer o waith yn hyfforddi cadetiaid ifanc i fod yn llysgenhadon trosedd casineb er mwyn annog pobl ifanc i helpu eu cyfoedion i adnabod a riportio trosedd casineb.

Roedd yn ddiddorol clywed am yr ymchwil mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ei gynnal a oedd yn dangos bod y pandemig wedi gwneud pobl yn fwy ynysig ac wedi lleihau nifer y mannau diogel yng Nghasnewydd i drigolion LGBTQ+. Mae'r cyfyngiadau symud yn arbennig o anodd i bobl ifanc, gan fod ganddynt lai o fynediad at fannau diogel, fel ysgolion a grwpiau ieuenctid.

Roeddwn yn falch o glywed bod nifer o sefydliadau lleol yn gweithio'n galed i roi sylw i hyn. Mae Tŷ Cymuned Casnewydd, sy'n derbyn cyllid gan fy swyddfa, wedi cyflogi gweithiwr LGBTQ+ i gyd-gysylltu grŵp pobl ifanc. Mae’r grŵp yn cwrdd ar-lein ac yn rhoi cymorth un i un a chymorth grŵp. Mae'n ddull cadarnhaol o weithio ac mae'n cael effaith cadarnhaol ar y bobl ifanc sy'n cael cymorth. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jacob.greggharris@etonrdch.org

Mae gan bobl ifanc yng Nghaerffili fynediad at brosiect Basement, sy'n darparu cymorth ar-lein a gwasanaethau eiriolaeth, ynghyd â lleoliad cymdeithasol y mae angen taer amdano. Anfonwch e-bost at thebasement@caerphilly.gov.uk 

Mae fy swyddfa'n rhoi cymorth i wasanaethau fel Umbrella Cymru sy'n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol, gwybodaeth ac eiriolaeth o ansawdd uchel i bobl LGBTQ+ sy'n dioddef trosedd. Cysylltwch ag Umrella Cymru fel a ganlyn:
Anfonwch e-bost:info@umbrellacymru.co.uk:
Ffoniwch: 0300 302 3670
Ewch i: www.umbrellacymru.co.uk
Dilynwch @umbrellacymru ar Twitter.

Gallwch riportio trosedd wrth 101 neu, mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.