Cyfres ddogfen y BBC yn dilyn bywydau swyddogion dan hyfforddiant yng Ngwent
Mae cyfres newydd o Rookie Cops yn darlledu dydd Llun 9 Medi am 8pm ar BBC One Wales.
Bydd yr wyth rhaglen ar gael ar iPlayer hefyd o ddydd Llun.
Mae'r gyfres yn dilyn hynt a helynt wyth o swyddogion dan hyfforddiant Heddlu Gwent, yn eu dilyn nhw yn ystod eu hyfforddiant ac allan ar y strydoedd wrth iddynt weithio i amddiffyn a thawelu meddwl eu cymunedau.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roedd yn fraint cael ymuno â'r swyddogion dan hyfforddiant sydd yn Rookie Cops, a'u teuluoedd, i weld y rhaglenni cyntaf ac roeddwn yn falch iawn o’r hyn a welais i.
“Yn rhy aml rydym yn anghofio bod ein swyddogion heddlu'n bobl go iawn sy'n ymuno â'r heddlu am eu bod eisiau gwneud eu gorau dros eu cymunedau.
"Mae'r gyfres ddogfen yma'n rhoi cipolwg go iawn ar fywyd swyddog heddlu newydd yn gweithio yng nghymunedau Gwent. Rwy'n gobeithio y bydd yn helpu pobl i ddeall yr heriau gwirioneddol mae'n rhaid i'n swyddogion heddlu eu hwynebu bob dydd."