Cyfraith newydd i amddiffyn dioddefwyr troseddau treisgar a rhywiol

21ain Ionawr 2021

Mae Llywodraeth y DU yn mynd i gyflwyno cyfraith newydd a fydd yn amddiffyn dioddefwyr a thystion mewn achosion o droseddau treisgar a rhywiol yn well.

Bydd Cyfraith Kay yn galluogi'r heddlu i orfodi amodau llym pan fydd pobl dan amheuaeth yn cael eu rhyddhau mewn achosion o niwed mawr, sy'n cynnwys y rhan fwyaf o achosion cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd hefyd yn sicrhau nad yw unigolion yn cael eu cadw ar fechnïaeth tra bod ymchwiliad yn parhau am gyfnodau afresymol o hir.

Mae'r gyfraith wedi cael ei henwi er cof am Kay Richardson, a lofruddiwyd gan ei chyn bartner ar ôl iddo gael ei ryddhau tra bod ymchwiliad yn parhau, er gwaethaf tystiolaeth o gam-drin domestig blaenorol.

Bydd y gyfraith yn cael ei chyflwyno o flaen Senedd y DU yn y dyfodol - mae'r dyddiad i'w gadarnhau.

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Eleri Thomas: "Os caiff ei chymeradwyo bydd y gyfraith newydd hon yn rhoi gwell amddiffyniad i ddioddefwyr a thystion mewn achosion o niwed mawr. Yn aml iawn dyma rai o'r bobl fwyaf bregus yn ein cymdeithas ac rwyf yn croesawu'r ddeddfwriaeth ychwanegol hon a fydd yn helpu i'w cadw nhw'n ddiogel rhag niwed pellach."

Daw'r newidiadau i ddeddfwriaeth ar ôl ymgynghoriad gan y Swyddfa Gartref ar fechnïaeth cyn cyhuddo, sy'n galluogi'r heddlu i ryddhau rhywun dan amheuaeth o'r ddalfa dan amodau penodol, wrth iddynt gasglu tystiolaeth neu aros am benderfyniad ynghylch cyhuddiad.

Canfuwyd bod rhagdybio mechnïaeth cyn cyhuddo wedi arwain at ryddhau llawer o bobl dan amheuaeth am gyfnodau hir tra bod ymchwiliad yn parhau, heb fod gofyn iddynt riportio i'r heddlu yn rheolaidd yn ystod y cyfnodau hyn.