Croeso mawr i Heddlu Bach newydd Graig-Y-Rhacca
13eg Hydref 2023
Mae grŵp newydd o recriwtiaid wedi ymuno â’r Heddlu Bach yn Ysgol Gynradd Graig-Y-Rhacca yr wythnos yma.
Treuliodd y recriwtiaid newydd eu cyfarfod cyntaf yn dysgu am Heddlu Gwent a’r gwahanol rengoedd a swyddi o fewn plismona.
Mae meithrin ymddiriedaeth rhwng pobl ifanc a’r heddlu’n hollbwysig, ac mae’r cynllun Heddlu Bach yn helpu i gyflawni hyn gan roi cyfle i blant wneud ffrindiau newydd a datblygu sgiliau newydd a fydd o fantais iddyn nhw am weddill eu hoes.