Crimestoppers yn lansio ffilm sy’n tynnu sylw at ba mor agored yw merched i gael eu hecsbloetio

15fed Hydref 2021

Mae’r elusen Crimestoppers wedi lansio ffilm addysgol sy’n rhybuddio am y ffaith bod merched yn gynyddol agored i gael eu hecsbloetio gan gangiau troseddol.

Mae ‘Stori Sophie’ yn canolbwyntio ar gymeriad Sophie, sy’n cael ei pharatoi, ei hecsbloetio’n rhywiol, a’i bygwth gan aelod o gang troseddau trefnedig.

Mae lansiad y ffilm yn rhan o ymgyrch genedlaethol bedair wythnos ar Linellau Cyffuriau, sy’n amlygu sut mae gangiau troseddau trefnedig yn targedu pobl ifanc i ddarganfod beth yw eu gwendidau.



Meddai Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent: “Mae Llinellau Cyffuriau yn broblem gynyddol yn ein cymunedau. Mae’n gymhleth, yn aml yn gudd, ac yn targedu rhai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. Mae’n rhan o’r darlun mwy o droseddau difrifol a threfnedig sy’n effeithio ar fwy o ddinasyddion Prydain nag unrhyw fygythiad arall i ddiogelwch cenedlaethol.

“Gall merched ifanc fod yn arbennig o agored i gael eu hecsbloetio. Mae’r troseddwyr yn gallu eu tynnu nhw i mewn drwy addo’r hyn sy’n ymddangos fel bywyd moethus a chyffrous. Ond allai hyn ddim bod yn bellach o’r gwir. Unwaith mae rhywun yn dod yn rhan o gang troseddol, mae’n anodd iawn iddyn nhw ei adael, ac maen nhw’n gallu cael eu dal mewn cylch o gamdriniaeth gorfforol, seicolegol a rhywiol.

“Mae’r ffilm hon yn amlygu realiti caled bywyd yn gweithio i gang troseddol, a gobeithio bydd yn atal pobl ifanc rhag cymryd rhan yn y math hon o drosedd.”

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi comisiynu Crimestoppers i weithio gyda phobl ifanc yng Ngwent i rannu negeseuon allweddol a chyngor am beryglon llinellau cyffuriau.

Meddai Jeff Cuthbert: “Does dim un asiantaeth yn mynd i allu datrys y broblem hon ar ei phen ei hun. Er mwyn mynd i’r afael â’r problemau hyn, mae angen i’r heddlu, busnesau, awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd, y trydydd sector, ysgolion a thrigolion gydweithio. Mae angen ymyrraeth gynnar wedi’i thargedu. Mae angen cadernid cymunedol.

“Yng Ngwent, rydyn ni ar flaen y gad yn gwneud gwaith arloesol i fynd i’r afael â’r broblem hon, a byddwn ni’n parhau i weithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod gan bobl ifanc ryddid i fyw eu bywydau heb drais nac ecsbloetiaeth.

“Mae gennym ni i gyd ein rhan i chwarae, ac os ydych chi’n amau bod rhywun yn dod yn rhan o linellau cyffuriau, neu’n cael eu hecsbloetio mewn unrhyw ffordd, rhowch wybod amdano.”

Arwyddion allweddol y gallai person ifanc fod mewn perygl

  • Mynd ar goll o’r ysgol/cartref yn barhaus.
  • Teithio ar eu pennau eu hunain i lefydd sy’n bell o gartref.
  • Derbyn rhoddion – llawer o arian neu ffonau symudol newydd.
  • Derbyn mwy o negeseuon nag arfer.
  • Cario neu werthu cyffuriau.
  • Cario arfau neu adnabod pobl sydd â mynediad at arfau.
  • Mewn perthynas neu’n treulio amser gyda phobl hŷn/pobl sy’n eu rheoli.
  • Aros yn eu cragen neu ymddangos fel pe bai ganddyn nhw rywbeth i’w guddio.
  • Anafiadau anesboniadwy ac ymddangos yn ofnus neu’n ofidus.

Gall unrhyw un â gwybodaeth am weithgarwch yn ymwneud â llinellau cyffuriau riportio’r mater wrth Heddlu Gwent drwy ffonio 101, neu 999 mewn argyfwng.

Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555 111, neu gall pobl ifanc rannu gwybodaeth yn ddienw drwy Fearless.org.