Creu Cymru wrth-hiliol

24ain Hydref 2024

Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, mewn trafodaeth banel ar wahaniaethu a gwrth-hiliaeth yn rhan o'r gynhadledd 'Creu Cymru Wrth-hiliol’ yng Nghaerdydd yr wythnos hon.

Cynhaliwyd y gynhadledd gan Policy Insight Wales, a daeth ag arweinwyr o bob rhan o Gymru at ei gilydd i edrych ar y cynnydd sydd wedi'i wneud yn erbyn y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Mae bod yn wrth-hiliol yn golygu cymryd camau rhagweithiol i herio a dileu hiliaeth mewn cymdeithas. Nod Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yw gwneud Cymru'n wlad wrth-hiliol erbyn 2030.

Ymunodd Comisiynydd Mudd gyda phartneriaid ar y panel i drafod sut gall y sector cyhoeddus gymryd camau ymarferol i ymladd yn erbyn hiliaeth a gwahaniaethu. 

Dywedodd: "Rwyf am i'n cymunedau fod yn llefydd lle gall pawb fyw eu bywydau fel nhw eu hunain, lle maen nhw'n cael eu trin yn gyfartal a gyda pharch. Yr unig ffordd y gallwn gyflawni hyn yw os yw ein sefydliadau, systemau a seilwaith sector cyhoeddus yn ymgorffori'r egwyddorion yma hefyd.

"Mae dod yn sefydliad gwrth-hiliol yn golygu cymryd camau rhagweithiol i herio hiliaeth, a gweithio i wneud gwahaniaeth mesuradwy i fywydau pobl ddu, Asiaidd a phobl o leiafrifoedd ethnig sy'n gweithio i ni, a'r rheini rydym yn eu gwasanaethu yn ein cymunedau.

"Rhaid i ni gydnabod bod rhai mathau o ymddygiad, syniadau ac agweddau strwythurol mor gyffredin nes eu bod nhw wedi cael eu normaleiddio ac yn rhan o fywyd bob dydd ac mae rhoi sylw i'r problemau hyn mewn ffordd ystyriol a pharhaus yn her. Fodd bynnag, trwy weithio gyda'n gilydd o dan y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol rwyf yn hyderus y gallwn wneud newid cadarnhaol, ac y byddwn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau.”