Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn cael croeso cynnes gan fasnachwyr yng Nghas-gwent

3ydd Mehefin 2021

Cafodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert groeso cynnes wrth ymweld â masnachwyr annibynnol yng Nghas-gwent i siarad am gynllun newydd Heddlu Gwent, Dangos y Drws i Drosedd.

Croesawodd masnachwyr y cynllun newydd sy'n ceisio mynd i'r afael â dwyn a byrgleriaeth.

Gwent yw'r heddlu cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu'r fenter sy'n canolbwyntio ar ddefnyddio technoleg Smartwater, y gellir ei defnyddio i olrhain a chanfod eitemau sydd wedi'u dwyn.

Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: "Fe wnes i wir fwynhau cwrdd â busnesau lleol, gan gynnwys rhai sydd wedi bod yn y dref ers blynyddoedd lawer.

"Roeddwn i’n falch iawn o glywed pan y rhai y siaradais â nhw eu bod yn teimlo bod lefelau troseddu yn isel yn y dref. Roedd yn amlwg bod gan fasnachwyr berthynas dda â'r tîm cymdogaeth lleol.

"Mae'n hanfodol bod masnachwyr yn rhoi gwybod i Heddlu Gwent am unrhyw achosion o ddwyn, mae teledu cylch cyfyng yn ddefnyddiol iawn a gellir ei ddefnyddio i gael gwybodaeth a thystiolaeth i helpu i fynd i'r afael â throseddu yn y Sir."

I roi gwybod am ddigwyddiad cysylltwch â Heddlu Gwent ar 101 neu @heddlugwent ar dudalennau Facebook neu Twitter. Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob amser.

Dysgwch fwy am y cynllun Dangos y Drws i Drosedd.