Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn llongyfarch swyddogion dan hyfforddiant
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi llongyfarch swyddogion heddlu 50 a raddiodd yn ffurfiol yr wythnos hon.
Nawr bod y swyddogion wedi cwblhau eu hyfforddiant byddant yn cael eu defnyddio gyda thimau plismona ar draws pum sir Gwent.
Maent yn ymuno â 70 o swyddogion eraill a raddiodd ym mis Gorffennaf.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Drwy ddod yn swyddog heddlu rydych yn dangos ymrwymiad gwirioneddol i wasanaeth cyhoeddus ac ymroddiad i'ch cymuned. Mae'r swyddogion hyn i gyd wedi gweithio'n eithriadol o galed ac rwy'n siŵr y byddant yn parhau â'r gwaith caled hwn i wneud Gwent yn lle mwy diogel i bob un ohonom.
“Rwyf wrthi'n datblygu fy Nghynllun Heddlu a Throsedd a fydd yn nodi fy mlaenoriaethau plismona ar gyfer Gwent a bydd y swyddogion hyn yn chwarae rhan hanfodol i gyflawni hyn. Dylen nhw fod yn falch o'r rhan y byddan nhw nawr yn ei chwarae wrth wneud gwahaniaeth i'n cymunedau a'u cadw'n ddiogel, ac rwy'n dymuno'r gorau iddyn nhw yn eu gyrfaoedd.”