Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn croesawu cynllun gwrth-hiliaeth
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu’r fersiwn drafft o Gynllun Gweithredu Hil yr Heddlu a ryddhawyd gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a’r Coleg Plismona.
Mae’r cynllun drafft yn amlinellu ymrwymiad prif gwnstabliaid Cymru a Lloegr i ddod yn wasanaeth heddlu gwrth-hiliol ac i esbonio neu wella anghyfartaledd hil.
Cyhoeddwyd y cynllun er mwyn i’r cyhoedd ei adolygu a gwneud sylwadau arno cyn iddo gael ei gwblhau’n derfynol ym mis Rhagfyr.
Meddai Jeff Cuthbert: “Rhaid i blismona ail adeiladu ymddiriedaeth ymysg cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
“Rydym eisoes yn gweithio’n gydweithredol gyda’r pedwar heddlu yng Nghymru i wneud gwelliannau o fewn ein sefydliadau ein hunain, ac mae’r cynllun hwn yn rhoi sicrwydd pellach bod plismona wedi ymroi i newid.”
Darllenwch y cynllun drafft
Lleisiwch eich barn