Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn cefnogi ymchwiliad Llywodraeth y DU i lofruddiaeth Sarah Everard

5ed Hydref 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU y bydd ymchwiliad cyhoeddus llawn yn cael ei gynnal i lofruddiaeth Sarah Everard.

Bydd dau ran i'r ymchwiliad a bydd y rhan gyntaf yn archwilio'r materion a godwyd gan lofruddiaeth Sarah. Gallai'r ail ran gynnwys materion ehangach ar draws y maes plismona.

Dywedodd Jeff Cuthbert: “Rwyf yn falch bod Llywodraeth y DU wedi newid ei safbwynt ac y bydd ymchwiliad llawn yn cael ei gynnal yn awr i lofruddiaeth drasig Sarah Everard.

"Mae'n ymddangos na chymerwyd camau gweithredu yn dilyn arwyddion rhybuddiol ac mae gan deulu Sarah, a'r cyhoedd, hawl i wybod y gwir ac i gael sicrwydd na fydd hyn yn digwydd eto.

"Mae'n bryd i gymdeithas newid a rhaid defnyddio’r achos trasig hwn yn awr i gynnal sgwrs hollbwysig ynghylch sut gallwn rwystro pob ffurf ar drais yn erbyn menywod a merched."