Comisiynydd yn ymuno â thrigolion yn Siop Siarad y Coed Duon

7fed Mawrth 2025

Fe wnaeth Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd dderbyn cwestiynau gan drigolion yn y Coed Duon yr wythnos hon. 

Ymunodd ag aelodau o'r tîm plismona cymdogaeth a phobl leol ar gyfer trafodaeth a hwyluswyd gan y Siop Siarad yng nghanol y dref, sydd â’r bwriad o feithrin gwell dealltwriaeth o rôl y Comisiynydd.

Nod y Siop Siarad yw cynyddu cyfranogiad democrataidd, mynd i'r afael â materion arwahanrwydd ac unigrwydd, a meithrin perthnasoedd rhwng cenedlaethau. Mae'n cynnig te, coffi a gweithgareddau am ddim drwy gydol yr wythnos, tra bod hwyluswyr sydd wedi’u hyfforddi yn annog sgwrs rhwng ymwelwyr a rhannu gwybodaeth am wasanaethau lleol.

Dywedodd Jane Mudd, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: "Roedd yn hyfryd cwrdd â phreswylwyr, cael sgwrs hamddenol am rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, a thrafod sut rydym yn gweithio i sicrhau bod pobl yn cael gwasanaeth da gan eu heddlu.

"Mae'r Siop Siarad yn amgylchedd diogel i aros, sgwrsio, cael paned, cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau creadigol am ddim a chael gwybod beth sy'n digwydd yn yr ardal leol. Rwyf wedi cyfrannu swm bach o gyllid i dreialu mynd â'r cysyniad hwn ar daith fel ffordd o fynd i'r afael â materion mewn cymunedau ledled Gwent ac edrychaf ymlaen at weld sut bydd hyn yn datblygu. Yn y cyfamser, byddwn yn annog pawb i alw heibio a gweld beth sydd ar gael."