Comisiynydd yn canmol canolfan galw heibio i bobl ifanc

3ydd Tachwedd 2021

Mae Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, wedi canmol gwaith staff a phobl ifanc yng Nghanolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd.

Mewn ymweliad diweddar â sesiwn gweithdy graffiti yn ystod hanner tymor a ariannwyd gan Gronfa Gymunedol yr Heddlu a Chyngor Cymuned Cwm Aber, gwelodd y Comisiynydd effaith y gweithgareddau ar bobl ifanc sy'n dod i’r ganolfan.

Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: "Rwyf wedi cefnogi Canolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd ers dros 20 mlynedd, mae'n agos iawn at fy nghalon.

"Roeddwn i'n falch iawn o weld pa mor frwdfrydig oedd pobl ifanc yn y gweithdy graffiti. Roedd yn amlwg eu bod yn mwynhau'r rhyddid i fod gyda'u cyfoedion a chreadigrwydd y sesiwn.

"Yn ystod y misoedd diweddar, mae pobl ifanc wedi gorfod ymdopi â chyfyngiadau symud ac wedi cael eu hynysu a hynny heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain.

"Mae angen cefnogaeth sefydliadau fel hyn arnyn nhw yn fwy nag erioed, i ddarparu lle diogel i gwrdd i ffwrdd o beryglon y strydoedd ac i dyfu fel unigolion."

Mae Cronfa Gymunedol yr Heddlu yn cynnig cymorth i grwpiau a sefydliadau ledled Gwent i helpu i ddargyfeirio plant a phobl ifanc o fywyd o droseddu. I gael rhagor o wybodaeth: https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/y-hyn-rydym-yn-ei-wario/comisiynu/cronfa-gymunedol-yr-heddlu/