Cofio dioddefwyr troseddau ‘ar sail anrhydedd'

14eg Gorffennaf 2021

Heddiw rydym yn cymryd amser i gofio'r rhai a lofruddiwyd yn yr hyn a’u gelwir yn ‘lladd ar sail anrhydedd’, ac i dynnu sylw at achosion o gam-drin domestig a thrais mewn teuluoedd a chymunedau lle mae 'anrhydedd' canfyddedig yn ffactor sy'n cyfrannu.

Mae troseddau 'seiliedig ar anrhydedd' yn aml yn gysylltiedig â'r gred bod rhywun wedi dod â chywilydd ar ei deulu neu ei gymuned drwy wneud rhywbeth nad yw'n cyd-fynd â thraddodiadau a chredoau'r diwylliant hwnnw. Menywod a merched yw'r dioddefwyr mwyaf cyffredin, er y gall hefyd effeithio ar ddynion a bechgyn.

Dewiswyd y dyddiad Gorffennaf 14 fel diwrnod o gofio i nodi pen-blwydd Shafilea Ahmed, a anwyd yn Bradford, a lofruddiwyd gan ei rhieni yn 2003. Lladdwyd Shafilea ar ôl blynyddoedd o gam-drin gan ei theulu oherwydd eu bod nhw’n credu ei bod hi’n mynd yn rhy orllewinol.

Amcangyfrifir bod 12 o achosion o ladd ar sail anrhydedd bob blwyddyn yn y DU. Yn ffodus, yma yng Ngwent, ni fu unrhyw achosion hyd y gwyddom.

Mae'r rhain yn droseddau hynod o gymhleth. Mewn llawer o achosion, nid yw'r dioddefwyr yn ymwybodol i raddau helaeth bod trosedd yn digwydd, gan gredu bod y cam-drin yn ymddygiad arferol, hyd yn oed yn dderbyniol. Gall gofyn i ddioddefwr roi gwybod am drosedd fod gyfystyr a gofyn iddo gerdded i ffwrdd o bopeth y mae'n ei wybod a'i garu; ei deulu, ei ffrindiau a'i gymuned. O'r herwydd, gwyddom y bydd y troseddau hyn yn cael eu tan-adrodd. Bydd y pandemig ond wedi gwaethygu hyn.

Yng Ngwent rydym wedi creu gweithgor i ystyried y mater hwn yn fanwl ar draws y rhanbarth. Gan weithio gyda'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, Heddlu Gwent, awdurdodau lleol ac asiantaethau cymorth, byddwn yn sicrhau bod gwybodaeth a dealltwriaeth o droseddau er anrhydedd yn rhan annatod o wasanaethau cyhoeddus yng Ngwent. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu dull cyson, ystyriol a hyderus o ddelio â throseddau er anrhydedd yn ein cymunedau, ac yn yr ymateb a ddarparwn i ddioddefwyr.

Nid oes ateb cyflym i'r broblem hon ond gallwn, fel cydweithwyr, ffrindiau a chymdogion, chwarae ein rhan i nodi yr arwyddion bod cam-drin yn digwydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu canllaw o ddangosyddion posibl y gallai cam-drin fod yn digwydd ac mae'n werth i ni i gyd roi o'n hamser i ymgyfarwyddo â’r rhain.

Yn anad dim, mae’n rhaid i ni fod yn glir na fydd cam-drin o unrhyw fath yn cael ei oddef.

Os ydych chi'n cael eich cam-drin, neu'n poeni am rywun, yna mae cymorth ar gael. Peidiwch â dioddef yn dawel.

Gall dioddefwyr roi gwybod i Heddlu Gwent am ddigwyddiadau drwy 101, neu ffonio 999 mewn argyfwng.

Os nad ydych eisiau roi gwybod i'r heddlu, mae cymorth hefyd ar gael drwy wasanaethau cymorth arbenigol:

BAWSO: Yn darparu gwasanaethau cymorth arbenigol i drigolion duon a lleiafrifoedd ethnig.
Gwefan: https://bawso.org.uk/
Ffôn: 08007318147

Connect Gwent: Yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth i ddioddefwyr. Nid oes rhaid i chi roi gwybod i'r heddlu am drosedd i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.
Gwefan: www.umbrellacymru.co.uk/connect-gwent
Ffôn: 0300 123 2133

Byw Heb Ofn: Llinell gymorth am ddim Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl sy'n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Gwefan: https://llyw.cymru/byw-heb-ofn
Ffôn: 0808 8010 800.