Cofio dioddefwyr hil-laddiad Srebrenica

9fed Gorffennaf 2021

Ymunodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Eleri Thomas, ag aelodau'r gymuned ac arweinwyr ffydd mewn digwyddiad ar-lein a gynhaliwyd gan Heddlu Gwent i gofio dioddefwyr hil-laddiad Srebrenica.

Eleni, mae hi'n 26 mlynedd ers yr erchyllter gwaethaf ar dir Ewrop ers yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu: "Heddiw rydym yn cofio'r holl fywydau a gafodd eu colli a'u dinistrio gan gasineb. Dros 8,000 a mwy o ddynion a bechgyn Mwslimaidd a lofruddiwyd mewn un wythnos, y menywod a merched Bosniaidd a gafodd eu treisio yn ystod cwymp Srebrenica, y rhai a gymerodd eu bywydau eu hunain, a'r rhai sy'n dal i fyw gyda chreithiau corfforol ac emosiynol. Rydym yn cofio erchyllterau'r gorffennol er mwyn gwneud yn siŵr nad ydynt yn digwydd eto.

“Yng Ngwent rydym wedi ymroi i'r broses o ailadeiladu bywydau pobl sydd wedi dioddef casineb a gwahaniaethu. Ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o drosedd casineb. Mae gan bob un ohonom gyfraniad pwysig i'w wneud er mwyn helpu i ailadeiladu bywydau, adeiladu cymunedau cadarn a dangos na fydd casineb ac anoddefgarwch yn trechu mewn unrhyw gymdeithas.”

Mae Connect Gwent yn cynnig cymorth i ddioddefwyr trosedd casineb. Ewch i connectgwent.org.uk neu ffoniwch 0300 123 2133.