Codi ymwybyddiaeth o wasanaethau cam-drin domestig gyda gweithwyr iechyd proffesiynol

30ain Medi 2024

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi cefnogi ei phartneriaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan mewn cynhadledd ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes gwasanaethau iechyd atgenhedlol yng Ngwent.

Defnyddiodd y tîm y cyfle i godi ymwybyddiaeth o Byw Heb Ofn, llinell gymorth cam-drin domestig a thrais rhywiol rhad ac am ddim Cymru.

Gwnaethon nhw hefyd siarad â gweithwyr proffesiynol am Ateb Tawel, sy'n caniatáu i rywun sydd wedi ffonio 999, ond sydd mewn sefyllfa lle nad yw’n gallu siarad, i bwyso 55 i roi gwybod i weithredwyr galwadau ei fod yn argyfwng gwirioneddol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae gweithwyr iechyd proffesiynol, yn enwedig y rhai hynny sy'n gweithio ym maes iechyd atgenhedlu, yn aml yn delio â phobl fregus iawn a allai fod angen cyngor, arweiniad a chefnogaeth.

"Mae codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau sydd ar gael i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn hynod o bwysig a thrwy sicrhau bod ein gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwbl ymwybodol o arwyddion cam-drin, a'r gefnogaeth sydd ar gael, gallwn helpu i gadw dioddefwyr bregus yn ddiogel."

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Gall Byw Heb Ofn roi cymorth a chyngor i:

  • Unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol.
  • Unrhyw un sy'n adnabod rhywun sydd angen help. Er enghraifft, ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr.
  • Ymarferwyr sy'n chwilio am gyngor proffesiynol.

Ffôn Byw Heb Ofn: 0808 80 10 800
Neges Destun Byw Heb Ofn: 07860077333
E-bost: info@livefearfreehelpline.cymru

Mewn argyfwng ffoniwch 999. Os na allwch siarad, pwyswch 55 pan ofynnir i chi wneud hynny i rybuddio'r swyddog galwadau ei fod yn argyfwng.