Clwb Soroptimyddion Cwmbrân
Yr wythnos yma gofynnwyd i fy nirprwy, Eleri Thomas, siarad yng Nghlwb Soroptimyddion Cwmbrân am y gwaith rydym yn ei wneud i amddiffyn menywod a merched yma yng Ngwent. Roedd aelodau'n awyddus i ddeall sut gallant helpu i gadw menywod a merched yn ddiogel yn eu cymunedau eu hunain hefyd.
Un o'r prif gamau gweithredu y gall pob un ohonom eu cymryd yw sicrhau ein bod yn sefyll yn gadarn yn erbyn aflonyddu pan welwn ef yn digwydd. Does dim rhaid bod yn gynhennus, gellir bod yn gynnil, ond mae'n bwysig ei fod yn cael effaith ystyrlon.
Mae Suzy Lamplough Trust yn gwneud gwaith da iawn yn y maes yma, yn darparu sesiynau hyfforddiant ar-lein i uwch-sgilio a grymuso pobl i helpu i leddfu sefyllfaoedd, perswadio pobl sy'n aflonyddu i beidio â gwneud hynny, a chefnogi dioddefwyr. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy, edrychwch ar wefan Suzy Lamplugh Trust.
Gallwch riportio pryderon wrth Heddlu Gwent hefyd neu geisio cymorth trwy wasanaeth Byw Heb Ofn Llywodraeth Cymru, neu yn uniongyrchol gan wasanaethau cymorth.