Clod gan y Comisiynydd i'r fforwm Cynllun Gwarchod Cymdogaeth

5ed Mawrth 2021

Yr wythnos hon bu fy nhîm yn ail fforwm rhithiol Cynllun Gwarchod Cymdogaeth Heddlu Gwent. 

Mae fforymau Cynllun Gwarchod Cymdogaeth yn helpu Heddlu Gwent i rannu gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau gyda grwpiau cymunedol ledled Gwent.  Gofynnir i'r bobl sy'n bresennol rannu eu gwybodaeth gyda'u grwpiau cymunedol, ffrindiau a theulu.

Mae grym mewn gwybodaeth ac rwy'n gobeithio bod y sesiynau hyn yn grymuso pobl ar draws Gwent i adnabod gweithgareddau amheus a rhoi'r hyder iddynt eu riportio. Rwyf am i Went barhau i fod yn lle diogel i fyw a gweithio ynddo, ac i ymweld ag ef, a rhaid i ni gydweithio i gyflawni hyn.

Yr wythnos hon y pwnc dan sylw oedd twyll, sy'n cyfrif am chwarter o'r holl droseddau sy'n cael eu cyflawni. Yn anffodus, mae wedi bod yn ei anterth yn ystod y pandemig. Mewn rhai amgylchiadau, mae troseddwyr yn cymryd mantais o bobl unig a bregus, sy'n chwilio am unrhyw fath o obaith a chyfeillgarwch yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

Twyll oedd y thema yn y Cydbwyllgor Archwilio yr wythnos hon hefyd, ac ymunodd y Prif Gwnstabl, Pam Kelly, â mi.  Gwnaethom wrando ar gyflwyniad gwych gan Brif Arolygydd Andy Tuck a roddodd olwg dreiddgar i ni ar rôl y llu yn ymdrin â thwyll ac atal yr effaith ddinistriol mae'n gallu ei gael ar gymunedau.

Ymysg rhai o'r sgamiau cyffredin sy'n digwydd ar hyn o bryd mae:

  • Twyll dynwared - gall fod yn alwad ffôn neu neges destun gan rywun yn dynwared swyddog heddlu, CThEM neu fanc. Maent yn dweud bod rhaid i chi dalu dirwy neu dreth er mwyn codi ofn arnoch chi. Os cewch chi negeseuon fel y rhain, peidiwch byth â rhannu manylion banc a riportiwch y mater. 
  • Sgamiau Amazon - lle mae pobl yn cael eu hannog i brynu llawer o dalebau Amazon er mwyn ennill gwobr ariannol fawr.
  • Twyll rhamant -  lle mae twyllwr yn esgus bod ganddo ddiddordeb rhamantaidd yn rhywun ar ôl cwrdd ar-lein er mwyn dwyn ei arian, neu i'w dwyllo i wyngalchu arian ar ei ran.
  • Twyll buddsoddiadau - mae hyn yn gysylltiedig â buddsoddiadau Bitcoin  yn aml a gall arwain at filoedd o bunnau'n diflannu mewn ychydig oriau. 
  • Masnachwyr ffug - mae'r troseddwyr hyn yn manteisio ar yr henoed yn aml, yn esgus eu bod yn adeiladwyr sydd am wneud gwaith ar eiddo am grocbris.  

Bydd y fforwm nesaf ddydd Mercher 31 Mawrth ar Teams ac anogir grwpiau cymunedol i ymuno.   Am ragor o wybodaeth ac i ymuno â'r sesiwn, anfonwch e-bost at crimeprevention@gwent.pnn.police.uk

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan sgamiau neu dwyll, cysylltwch â Heddlu Gwent ar 101 neu riportiwch ar dudalen Facebook Heddlu Gwent.

  • Ffoniwch Action Fraud ar 0300 123 2040.
  • Mae tîm Twyll Heddlu Dinas Llundain yn awyddus i dderbyn negeseuon testun sy'n sgamiau. Mae'r tîm yn nodi'r rhifau a ddefnyddir er mwyn olrhain gweithgarwch troseddol. Anfonwch negeseuon testun ymlaen at 7726.
  • Os ydych chi wedi dioddef twyll ac os hoffech gael cymorth, ffoniwch Connect Gwent ar 0300 123 2133.