Cefnogi myfyrwyr ar ddechrau'r tymor
15fed Medi 2023
Mae fy nhîm wedi bod yn brysur yn ystod dechrau'r tymor ysgol, yn cefnogi Coleg Gwent mewn cyfres o ddigwyddiadau i fyfyrwyr newydd.
Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle da i siarad â myfyrwyr am eu profiadau gyda phlismona ac maent yn ffordd bwysig o sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed ac yn rhan o'n penderfyniadau.
Mae hefyd yn gyfle da i hyrwyddo plismona fel gyrfa bosibl, naill ai fel swyddog heddlu, swyddog cefnogi cymuned, neu aelod o staff. I gael rhagor o wybodaeth am swyddi yn yr heddlu, ewch i wefan Heddlu Gwent.