Blog gwadd: Sue Lewis, Cyfarwyddwr Artistig Ffin Dance

8fed Tachwedd 2021

Mae Ffin Dance wedi cael arian o gronfa gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent i ddarparu gweithgareddau dawns yng nghymuned Blaenau Gwent.

Rwyf wedi bod yn daer ers tro dros gael mwy o bobl ifanc i ymgysylltu a’r celfyddydau, yn arbennig yn y maes dawns.

Pan oeddwn yn bennaeth dawns yn Ysgol Gyfun Hŷn Glynebwy, cawsom ganlyniadau gwych gyda phobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dawns yn rhan o’r cwricwlwm ac yn allgyrsiol yn yr ysgol. I lawer, roedd yn ffordd dda o ddod yn heini ac yn ystwyth, i eraill roedd yn ffordd dda o ennill hyder, ond i bawb roedd yn ffordd o fod yn greadigol heb unrhyw deimlad bod rhywbeth yn “gywir neu anghywir” a heb neb yn barnu.

Rwyf yn credu’n gryf y dylai dawns fod yn rhan o fywyd pawb.

Enw’r prosiect rydym yn ei gyflwyno yw Dance & Enhance ac mae’n cynnwys gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn eu hardal leol. Nid oes angen iwnifform, mae am ddim i bawb a gall unrhyw un ymuno.

Dengys astudiaethau y gall technegau ymyrraeth gynnar i ymgysylltu â phobl ifanc mewn ffordd greadigol helpu i feithrin eu hunanhyder a’u hunan-dyb. Yn ei dro gall hyn arwain at hunan-barch a mwy o barch tuag at bobl eraill.

Rydym yn annog y bobl ifanc i wylio gwaith ei gilydd a gwneud sylwadau caredig, i gydweithio ac i gael ymdeimlad o lwyddiant grŵp y mae pawb yn cyfrannu ato.

Rydym wedi gwneud partneriaethau newydd gwych gyda’r heddlu lleol, grwpiau cymuned lleol a gyda phobl ifanc ffantastig ac unigryw.

Rwyf yn teimlo mor freintiedig i fod yn ymgymryd â gwaith fel hyn yn fy nghymuned fy hun ac rwy’n gobeithio y bydd y gwaith yn cael effaith barhaus a chadarnhaol ar fywydau pobl.

Os hoffech wybod mwy am Dance & Enhance a sut gallwn gydweithio gyda’ch sefydliad chi, cysylltwch â: info@ffindance.co.uk