Blog gwadd: Rachel Evans, gweithiwr cymorth ymyrryd mewn argyfwng ar gyfer pobl ifanc gydag Allgymorth Grymusol

23ain Tachwedd 2021

Prosiect o fewn Cymorth i Fenywod Cyfannol yw Allgymorth Grymusol, sy'n gweithio mewn partneriaeth gyda Heddlu Gwent. Dechreuodd y prosiect yn 2018, yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus a ganfu bod unigolion a oedd yn profi cam-drin domestig yn ymgysylltu'n well gyda swyddogion pan oedd gweithiwr cymorth yn bresennol. Mae'r tîm yn rhoi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig ar bwynt argyfwng ledled Gwent. Mae gweithwyr cymorth yn gweithio gyda swyddogion mewn gorsafoedd heddlu ac maen nhw'n mynd gyda swyddogion pan fyddant yn derbyn galwadau am gam-drin domestig, gan ymateb ar y cyd i ddigwyddiadau cam-drin domestig. 

Penderfynwyd bod angen dull mwy arbenigol ar gyfer helpu dioddefwyr bregus yn y gymuned. Ym mis Gorffennaf 2021, estynnwyd y prosiect i gynnwys gweithiwr cymorth mewn argyfwng a oedd yn arbenigo mewn ymyrraeth ar gyfer pobl ifanc, sy'n cael ei ariannu gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd. O fewn y swydd hon rwyf yn rhoi cymorth i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ar adeg o argyfwng ac rwyf yn darparu cymorth parhaus i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu rhoi mewn cysylltiad â'r gwasanaethau priodol hefyd. Mae'r ymyrraeth hon yn helpu pobl ifanc i fod yn fwy diogel a theimlo eu bod yn cael mwy o gefnogaeth pan fyddant yn gadael cydberthnasau camdriniol.

Pan fyddaf yn rhoi cymorth i bobl ifanc, rwy’n defnyddio amrywiaeth o ddulliau gwahanol i helpu i ymgysylltu â nhw. Gallai hyn fod yn eu cartref, mewn lle diogel yn y gymuned, ar y ffôn neu drwy gyfrwng neges destun neu e-bost. Rwy’n siarad gyda'r bobl ifanc i ddeall beth maen nhw'n teimlo'n gyfforddus gydag ef, gan sicrhau eu bod yn deall mai nhw sy'n rheoli beth sy'n digwydd nesaf. Rwy’n trafod eu cydberthynas gyda nhw, cwblhau asesiad risg a gweld beth sydd ei eisiau a’i angen arnyn nhw. Rwy’n llunio cynllun diogelwch gyda'r bobl ifanc i sicrhau bod y cynllun yn gyraeddadwy ac yn bwrpasol ar gyfer eu hanghenion. Rwyf hefyd yn trafod anghenion cymorth parhaus, boed yn lloches, cymorth arbenigol ar gyfer cam-drin domestig neu rywiol, iechyd meddwl, tai neu gymorth cyffuriau ac alcohol arbenigol.

Fy nod wrth gefnogi pobl ifanc yw helpu i gau'r bwlch rhwng yr heddlu a gwasanaethau cymorth. Rwyf eisiau iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu clywed pan fyddant yn riportio trosedd neu'n ceisio cymorth, gan wybod y byddant yn cael eu cymryd o ddifrif. Rwyf am i bobl ifanc deimlo bod ganddyn nhw'r grym i wneud eu dewisiadau eu hunain ar eu cyfer nhw a'u teuluoedd, gan wybod pa gymorth sydd ar gael iddyn nhw. Pan fydd rhywun yn cyrraedd y pwynt argyfwng, mae’n gallu bod yn llethol, felly mae cael rhywun sy'n gallu treulio amser gyda nhw i esbonio'r broses a mynd trwy'r opsiynau gyda nhw yn hollbwysig. Mae llawer o'r bobl ifanc rwy'n siarad â nhw yn synnu at faint o gymorth a chefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw.

Rwy'n teimlo'n angerddol dros greu newid cadarnhaol i bobl sydd wedi goroesi cam-drin domestig ac rwy'n hynod o falch o'r gwaith rwyf yn ei wneud a’r holl waith mae Allgymorth Grymusol yn ei wneud er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ein cymuned.

I ddysgu mwy am wasanaethau cefnogi Cymorth i Fenywod Cyfannol i unigolion a theuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig neu drais rhywiol, ewch i www.cyfannol.org.uk, chwiliwch amdanom ni ar gyfryngau cymdeithasol, neu ffoniwch 03300 564456. Dylech ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.