Blog Gwadd: Liam Jenkins, Sir Casnewydd yn y Gymuned

15fed Mehefin 2021

Fy enw i yw Liam Jenkins, rwy’n 24 oed a fi yw cydlynydd Premier League Kicks ar gyfer ymddiriedolaeth elusennol tîm Sir Casnewydd, Sir Casnewydd yn y Gymuned.


Cafodd Sir Casnewydd yn y Gymuned ei sefydlu pan ymunodd tîm Sir Casnewydd â’r Gynghrair Bêl-droed yn 2013 gan ei bod yn ofynnol i bob clwb yn y gynghrair fod ag ymddiriedolaeth elusennol sy’n rhoi yn ôl i’r gymuned. Ei nod yw annog pobl o bob oed ledled de-ddwyrain Cymru i gymryd rhan mewn pêl-droed a gweithgareddau corfforol, gan hybu iechyd a lles.

Premier League Kicks yw rhaglen flaenllaw’r Uwch Gynghrair a’i nod yw ysbrydoli pobl ifanc rhwng wyth a 18 oed mewn ardaloedd lle mae angen mawr. Trwy ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ar adeg dyngedfennol yn eu bywydau rydym yn gobeithio eu harwain i ffwrdd o ymwneud â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydym yn gwneud hyn trwy gyfuniad o waith wedi’i dargedu gyda phartneriaid lleol a chyflwyno sesiynau galw heibio gyda’r nos. O ganlyniad i’r cyllid yr ydym yn ei gael gan Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu rydym wedi gallu ehangu’r prosiect ac erbyn hyn rydym yn cynnal sesiynau yn ardal Ringland yng Nghasnewydd, lle cefais i fy magu.

Mae sesiwn arferol i ni yn sesiwn bêl-droed gystadleuol ond rydym ni bob amser yn rhoi dewis o wahanol chwaraeon i’r bobl ifanc fel dodgeball, pêl-fasged, neu hoci i gynnal eu diddordeb. Mae gennym ni rai rheolau y mae’n rhaid i chi gadw atyn nhw os byddwch yn chwarae gyda ni. Nid oes unrhyw regi, dim ysmygu yn ystod y sesiwn, ac mae’n rhaid i bawb drin ei gilydd â pharch. Yn ystod y sesiynau rydym yn siarad â phobl ifanc ynghylch y materion y maen nhw’n eu hwynebu ac yn ceisio’u helpu i ddeall y niwed y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddu ei wneud i eraill yn eu cymuned.

 

Rydym wedi bod yn ffodus i fynd â phobl ifanc i rai o’r gemau cartref mawr, fel gêm Sir Casnewydd a Dinas Manceinion, ac mae’r rhai ymroddedig yn cael cyfle i gynrychioli’r sir mewn gemau yn erbyn timau Premier League Kicks eraill. Mae'n eu helpu i ddeall yr hyn y gallan nhw ei gyflawni pan fyddan nhw’n wir yn ymdrechu.

Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un anodd ond rydym wedi parhau i weithio a gwneud yr hyn y gallwn i sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i ymgysylltu. Gwnaethom ni ddarparu pecynnau pêl-droed a phecynnau gweithgareddau i gartrefi pobl i'w cadw’n actif yn ystod y cyfyngiadau symud a'u hannog i gymryd rhan mewn heriau ar-lein i gynnal eu cymhelliant. Rydym hefyd wedi cynnal cwisiau ar-lein, twrnameintiau pêl-droed, ac wedi trefnu galwadau fel bod pobl ifanc yn gallu siarad â rhai o brif chwaraewyr Sir Casnewydd fel Matty Dolan a Mickey Demetriou. Diolch byth, gan fod y cyfyngiadau symud wedi llacio erbyn hyn, rydym yn ôl yn y gymuned unwaith eto.

Nid yr heddlu ydym ni. Nid athrawon ydym ni. Rydym yn siarad â’r bobl ifanc ar eu lefel nhw ac i lawer ohonyn nhw, hon fydd yr unig ran gadarnhaol o’u diwrnod. Rydym yn gobeithio, trwy ymgysylltu â nhw, a chynnig y cyfle iddyn nhw ddefnyddio’u hegni mewn gweithgareddau chwaraeon, y gallwn ni helpu pobl ifanc i wneud penderfyniadau cadarnhaol yn eu bywydau a fydd o fudd iddyn nhw am flynyddoedd lawer.