Blog gwadd: Jean Munton, Ymwelydd Annibynnol â Dalfeydd
Rwyf wedi bod yn ymwelydd annibynnol â dalfeydd ers pum mlynedd bellach.
Pan wnes i ymddeol, roeddwn am wneud gwaith gwirfoddol gan nad oedd gen i lawer o amser i wneud unrhyw beth rheolaidd pan oeddwn yn gweithio. Roeddwn wedi cael gyrfa fel cyfreithiwr yn y system cyfiawnder troseddol felly nid oeddwn yn edrych ar y maes hwnnw'n benodol pan welais yr hysbyseb. Roeddwn wedi bod yn Ddirprwy Glerc i'r Ustusiaid, yn gweithredu fel cynghorydd cyfreithiol annibynnol i ynadon, yn ogystal â rheoli'r llysoedd a'r baich gwaith yn yr ardal roeddwn yn gweithio ynddi.
Yn hwyrach yn fy ngyrfa roeddwn yn Uwch Erlynydd y Goron a gwelais y system llysoedd o safbwynt gwahanol. Rwyf wedi gweld y llawenydd ar wynebau teuluoedd ar ddiwedd y broses mabwysiadu a'r ofn ar wynebau dioddefwyr cam-drin domestig yn yr ystafell aros, a oedd eisiau dianc yn hytrach na rhoi tystiolaeth, ac rwyf wedi clywed eu diolch ar ôl iddynt gael eu helpu trwy'r broses. Rwyf wedi gorfod adolygu amrywiaeth eang o achosion - o gam-drin plant i lofruddiaeth.
Mae dioddefwyr eisiau cyfiawnder pan mae rhywun wedi gwneud cam â nhw ond rhaid i gymdeithas sicrhau bod y person iawn yn cael ei ddwyn gerbron llys a bod y system yn un agored a theg i'r ddwy ochr. Mae'n hollbwysig felly bod proses yr achos llys yn deg a bod dioddefwyr yn gweld cyfiawnder, ond mae'r un mor bwysig bod yr unigolyn sydd wedi cael ei gyhuddo a'i deulu'n gallu derbyn y ddedfryd hefyd.
Mae hyn yn dechrau o'r cychwyn cyntaf pan gaiff unigolyn ei arestio a'i gadw yn yr orsaf heddlu. Mae llawer o bethau i'w hystyried a llawer o gwestiynau y mae'n rhaid eu gofyn: sut mae'r unigolyn yn cael ei drin yn gorfforol, a oes angen triniaeth feddygol arno, a oes ganddo broblemau iechyd meddwl, mynediad i gyfreithiwr, datgeliad gwybodaeth, a yw dan 18 oed ac a oes ganddo fynediad i oedolyn priodol i'w helpu, pa iaith mae'n siarad, a oes ganddo fynediad i gyfieithydd?
Mae'r hyn sy'n digwydd yn yr orsaf heddlu yn ystod yr oriau hollbwysig hynny ar ôl arést a'r ffordd yr ymdrinnir â'r materion hyn yn gallu dylanwadu pan fydd barnwr yn dod i'r casgliad bod erlyniad unigolyn yn deg. Os caiff erlyniad ei atal oherwydd yr hyn sydd wedi digwydd mewn gorsaf heddlu, yna ni fydd dioddefwyr yn gweld cyfiawnder.
Felly mae rôl ymwelydd annibynnol â dalfeydd yn hollbwysig i sicrhau bod proses gyffredinol yr achos llys yn deg. Mae ymwelwyr yn mynd i orsafoedd heddlu a siarad yn uniongyrchol â phobl sy'n cael eu cadw a gwirio i sicrhau bod eu hawliau'n cael eu parchu. Gallwn wirio ei gofnod dalfa os oes problem a siarad â rhingyll y ddalfa ble y bo angen. Mae'r heddlu a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, sy'n penodi ymwelwyr â dalfeydd, yn cael copi o'r adroddiad ymwelydd ar ôl pob ymweliad. Mae'r ymwelwyr yn cwrdd â'r heddlu bob tri mis i adolygu'r tri mis diwethaf ac ymdrin ag unrhyw broblemau a allai fod wedi codi. Mae'r ymwelydd â dalfeydd yn chwarae rhan annibynnol bwysig yn sicrhau bod gan ein gwlad system gyfiawnder troseddol deg ac agored y gall pob dinesydd ei chefnogi a chael hyder ynddi.
Rwyf yn falch o'n system cyfiawnder troseddol a'r ffordd y mae wedi esblygu ers fy nyddiau yn y coleg a dechrau fy ngyrfa. Mae wedi dod yn fwy cymhleth ond mae'r gwelliannau, i ddioddefwyr a phobl wedi'u cyhuddo, wedi golygu bod system dda wedi dod yn system well ac y bydd yn parhau i wella. Fel ymwelydd â dalfeydd, gallaf barhau i gyfrannu at y gwelliant parhaus hwnnw. Mae gan yr ymwelwyr â dalfeydd rwy'n gweithio gyda nhw brofiadau gwaith gwahanol iawn i'm rhai i ac mae'r rhain i gyd yn cyfrannu at y ffordd mae ein tîm wedi esblygu dros y blynyddoedd diweddar. Gyda chefnogaeth tîm ymroddgar yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gall ymwelwyr annibynnol â dalfeydd barhau i wneud cyfraniad pwysig ac effeithiol i'r system cyfiawnder troseddol gan sicrhau ei bod yn parhau i fod yn agored a theg.
Dysgwch fwy am y cynllun Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd.