Blog gwadd: Alex Tipping, Ymarferydd Trosedd Tanau

13eg Mai 2021

Fy enw yw Alex Tipping, rwy'n 26 mlwydd oed ac rwy'n gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

Rwy'n ymarferydd trosedd tanau yn yr adran diogelwch cymunedol ac mae fy swydd yn cael ei hariannu gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent. Rwyf hefyd yn rheolwr criw wrth gefn yng ngorsaf dân Y Fenni.

Fy rôl i yw helpu cymunedau yn ogystal ag addysgu pobl am danau bwriadol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a'r effaith mae'r rhain yn ei gael ar eu cymunedau.  Derbyniais y swydd oherwydd fy mod eisiau bod yn rhan o sefydliad sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn yn y gymuned, ac rwy’n teimlo bod hynny’n wir iawn am y swydd hon.

Rwy'n gweithio ochr yn ochr â nifer o asiantaethau partner i leihau a chodi ymwybyddiaeth o broblemau fel tipio anghyfreithlon sy'n gallu arwain at danau sbwriel bwriadol a thanau gwyllt bwriadol. Rwyf hefyd yn asesu adeiladau gwag i weld pa mor agored ydynt i losgi bwriadol, sy'n peri risg pellach i'n swyddogion tân, ac rwyf yn rhoi cymorth i ddioddefwyr trais domestig.

Mewn atgyfeiriadau trais domestig rwy'n rhoi cymorth i'r dioddefwr trwy wella diogelwch eu heiddo er mwyn gwella eu diogelwch a lles os ydynt wedi cael eu bygwth gyda llosgi bwriadol, trosedd casineb neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae fy niwrnod gwaith yn amrywio'n fawr oherwydd y pandemig presennol.  Fel arfer byddaf yn siarad â'r ddau ymarferydd arall yng Ngwent trwy gyfrwng galwad fideo ac yn gweld a oes angen cymorth arnynt gydag unrhyw beth. Yn dilyn hyn, oherwydd y galw o ran atgyfeiriadau trais domestig, byddaf yn cynnal unrhyw ymweliadau sydd eu hangen.

Yn ystod pandemig Covid 19 rydym wedi profi cynnydd mewn tanau sbwriel bwriadol. Gallai hyn fod oherwydd bod mwy o bob yn aros adref a bod llai o wasanaethau ar gael mewn canolfannau gwastraff ac ailgylchu. Rydym yn cynghori pobl i ddilyn canllawiau'r awdurdod lleol a'r llywodraeth ar gyfer gwaredu gwastraff a defnyddio cludwr gwastraff cofrestredig bob tro i waredu eu gwastraff. Gofynnwn i chi hysbysu ein hystafell reoli ar 01268 909407 hefyd os ydych yn bwriadu llosgi sbwriel dan reolaeth ar eiddo preifat, fel nad ydym yn cael ein galw allan yn ddiangen.

Mae'n bwysig cydnabod er ein bod wedi profi cynnydd yn y digwyddiadau hyn yn ddiweddar, mae'r data ar gyfer digwyddiadau fel hyn yn awgrymu ein bod yn cael ein galw allan i nifer sylweddol llai ohonynt nac yn ystod yr un cyfnod y llynedd. Mae hyn yn codi fy nghalon gan fy mod yn gallu gweld yr effaith gadarnhaol mae fy rôl yn ei gael ar wella lles trigolion Gwent.

Rwyf yn ddiolchgar iawn ac yn falch fy mod yn cael gweithio i sefydliad mor wych, ac yn cael gwneud gwahaniaeth yn ddyddiol o fewn cymunedau Gwent.