Amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed

18fed Mawrth 2021

Mae amddiffyn plant a phobl ifanc rhag niwed yn flaenoriaeth i Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Heddlu Gwent.

Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn ffurf ar gam-drin rhywiol sy’n cynnwys annog a/neu orfodi person ifanc dan 18 oed i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol.

Nod Diwrnod Cenedlaethol Codi Ymwybyddiaeth o Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant yw tynnu sylw at faterion sy’n ymwneud â chamfanteisio’n rhywiol ar blant ac annog pawb i adnabod yr arwyddion a chodi llais yn erbyn camdriniaeth.

Mae camfanteisio’n rhywiol ar blant yn ddinistriol ac mae’n cael effaith sylweddol ar blant, eu teuluoedd a chymunedau. Mae’n bwysig sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymwybodol o’r peryglon a’u bod yn cael eu hannog bob amser i siarad â rhywun maent yn ymddiried ynddo os ydynt yn poeni neu’n bryderus.

Mae’r NSPCC yn cynnig cyngor a chefnogaeth ynghyd â gwybodaeth ynghylch sut i adnabod arwyddion camdriniaeth. Am ragor o wybodaeth: https://www.nspcc.org.uk/what-is-child-abuse/types-of-abuse/child-sexual-exploitation/

Mae cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr yn hollbwysig i sicrhau bod lles pobl ifanc yn cael blaenoriaeth. Mae’r sefydliad lleol Llwybrau Newydd yn cynnig cymorth, cefnogaeth a gwasanaethau cwnsela i blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu heffeithio gan gam-drin rhywiol.

 

Llwybrau Newydd
Ffoniwch: 01685 379 310
E-bostiwch: enquiries@newpathways.org.uk 


I riportio digwyddiad, ffoniwch 101 os nad yw’n fater brys neu 999 os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod mewn perygl ar unwaith.

Fel arall, gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.

Gallwch ddilyn Heddlu Gwent ar y cyfryngau cymdeithasol @gwentpolice hefyd, lle gallwch riportio trosedd ar-lein hefyd.