Amddiffyn ein cydweithwyr yn y GIG

21ain Medi 2021

Mae tîm Dangos y Drws i Drosedd Heddlu Gwent wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i fynd i’r afael â’r broblem gynyddol o ddwyn cerbydau a dwyn o gerbydau wedi’u parcio ar safleoedd y GIG.

Mae’r tîm wedi bod yn defnyddio amryw o ddulliau i ddal troseddwyr sy’n targedu eiddo staff y GIG.

Yn ddiweddar, mae hyn wedi arwain at arestio a chyhuddo dyn a gafodd ei ddedfrydu i 24 wythnos yn y carchar.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Yn anffodus, er gwaethaf y rôl hollbwysig mae ein cydweithwyr yn y GIG wedi ei chwarae trwy gydol y pandemig, mae cerbydau staff y GIG yn cael eu targedu gan ladron yn gynyddol.

“Mae pob lladrad yn annerbyniol ond mae targedu gweithwyr mewn ysbytai, a chleifion a’u teuluoedd, yn arbennig o ffiaidd.

“Rwyf yn falch bod y gwaith partner rhwng Heddlu Gwent a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i fynd i’r afael â’r troseddau ofnadwy hyn yn gweithio, ac yn anfon neges glir i ladron na fydd hyn yn cael ei oddef.”