Adroddiad Blynyddol Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru
Yr wythnos hon, cyhoeddodd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ei adroddiad blynyddol.
Mae Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru yn dwyn partneriaid cyfiawnder troseddol at ei gilydd i adolygu canlyniadau a phrofiadau pobl sy'n dod ar draws y System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru.
Mae gweithio mewn partneriaeth yn hollbwysig er mwyn sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr, tystion a throseddwyr.
Rwyf yn falch i weld bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y dull arloesol o amddiffyn tystion a dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r Cyfleuster Tystiolaeth Fideo Diogel newydd yng Nghymru yn helpu'r bobl fwyaf agored i niwed i roi tystiolaeth mewn achosion llys. Rwyf yn falch bod gennym ni Gyfleuster Tystiolaeth Fideo Diogel yma yng Ngwent.