Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent
Ers 2014 mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent wedi buddsoddi mwy nag £800,000 yn flynyddol i Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS).
Mae GDAS yn gonsortiwm o Kaleidoscope, Barod a G4S sy’n darparu cyngor a chymorth targed i ddefnyddwyr cyffuriau ac alcohol, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol a allai ymdrin â phobl sy’n cyflwyno problemau cyffuriau ac alcohol.
Roedd y dull consortiwm y cyntaf o’i fath yng Ngwent ac fe’i hystyrir erbyn hyn yn arfer gorau. Trwy ddod ag amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaeth at ei gilydd, mae amseroedd aros yn lleihau neu’n diflannu i ddefnyddwyr gwasanaeth ac mae pontio didrafferth rhwng gwasanaethau.
Mae camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn aml yn cyfrannu at droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Defnyddir mwyafrif y cyllid o Swyddfa’r Comisiynydd i gefnogi Cyfiawnder Troseddol GDAS sy’n gweithio gyda’r rhai hynny sydd yn y system cyfiawnder troseddol neu ar adeg eu mynediad iddi.
Mae staff wedi’u lleoli yn ystafelloedd y ddalfa yng Nghasnewydd ac Ystrad Mynach, ac yn gweithio’n agos gyda’r heddlu i geisio sicrhau eu bod yn ymweld â phob person sy’n mynd i’r ddalfa i weld a oes angen cymorth arnynt. Mae swyddog cymorth wedi’i leoli yn Llys yr Ynadon Casnewydd hefyd.
Trwy fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn uniongyrchol, ac mewn llawer o achosion, trwy weithio gyda gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol i archwilio’r achosion sylfaenol, cynigir llwybr amgen mewn bywyd i’r rhai hynny sy’n dibynnu ar gyffuriau ac alcohol, sydd hefyd yn helpu i atal troseddau yn y gymuned.
Astudiaeth Achos
Cafodd defnyddiwr gwasanaeth o Gaerffili Orchymyn Triniaeth Alcohol am chwe mis gan y llys o ganlyniad i oryfed mewn pyliau hunan-ddatganedig a chydnabyddiaeth o gysylltiad rhwng alcohol a throsedd ddiweddar.
Trwy asesiad manwl a chynllunio gofal gyda gweithiwr cymorth GDAS, nodwyd sawl amcan yr archwiliodd y defnyddiwr gwasanaeth yn ystod sesiynau wythnosol. Gweithiodd y gweithiwr cymorth gyda’r defnyddiwr gwasanaeth i ddatblygu sgiliau ymdopi ac adfer, ond cysylltodd hefyd â gwasanaethau allweddol fel y gwasanaeth iechyd, tai a’r Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd, er mwyn sicrhau’r cymorth gorau posibl drwy ddull partneriaeth cydgysylltiedig.
O ganlyniad i’r cymorth gan GDAS mae’r defnyddiwr gwasanaeth wedi dweud ei fod wedi gallu lleihau ei ddefnydd o alcohol ac, o ganlyniad i hynny, mae ei iechyd meddwl a chorfforol yn well ac mae gan y defnyddiwr berthynas well â’i deulu. Mae wedi gofyn am gael parhau i weithio gyda GDAS yn wirfoddol ar ôl i’r gorchymyn llys ddod i ben.
Mwy am GDAS
Blog gwadd: Deborah Lippiatt, Rheolwr Gwasanaeth Cyfiawnder Troseddol GDAS