Taith gwrth-drais genedlaethol yr Angel Cyllid

Daeth yr Angel Cyllyll, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel y Gofeb Genedlaethol yn Erbyn Trais ac Ymosodiad, i Went ym mis Tachwedd 2022 yn rhan o'i daith ledled y DU. Roedd y cerflun i'w weld yng nghanolfan siopa Friars Walk yng Nghasnewydd.

Beth yw'r Angel Cyllyll?

Comisiynwyd yr Angel Cyllyll gan y Ganolfan Gwaith Haearn Prydeinig yng Nghroesoswallt ac fe'i crëwyd gan yr arlunydd Alfie Bradley. Cafodd ei ddylunio i greu newid cymdeithasol, helpu i godi ymwybyddiaeth o'r dinistr mae ymddygiad treisgar yn gallu ei greu mewn cymunedau, a gweithredu fel cofeb i bobl sydd wedi colli eu bywydau trwy drais.

Ffeithiau a ffigyrau:
• Mae'r Angel Cyllyll dros 27 troedfedd o uchder.
• Mae wedi'i wneud o dros 100,000 o gyllyll wedi eu hildio mewn amnestau ledled y DU.
• Mae negeseuon o obaith gan deuluoedd dioddefwyr wedi cael eu hysgythru ar adenydd yr Angel.
• Ers dechrau ar ei daith yn 2018, mae'r Angel Cyllyll wedi ymweld â 27 o drefi a dinasoedd ledled y DU.
Mae rhagor o wybodaeth am yr Angel Cyllyll ar gael ar wefan y Ganolfan Gwaith Haearn Prydeinig.

Yr Angel Cyllyll yng Ngwent

Trwy gydol ymweliad yr Angel Cyllyll gwnaethom weithio gyda Heddlu Gwent a phartneriaid gan gynnwys Cyngor Dinas Casnewydd, Fearless, Ymddiriedolaeth St Giles a StreetDoctors i ddarparu gweithdai am beryglon trais ac ymosodiad i bobl ifanc yng Ngwent.

Anogwyd trigolion i gymryd lluniau o'r Angel Cyllyll a'u rhannu nhw gan ddefnyddio'r hashnod #AngelCyllyllGwent

Dyluniwch sticer gwrth-trais

Fel rhan o ymweliad yr Angel Cyllyll gwnaethom ofyn i blant ysgol ein helpu ni i ddylunio sticer y gallai pobl ei wisgo i ddangos eu cefnogaeth a 'dweud na wrth drais’.

Cafodd y ddau ddyluniad gorau eu hargraffu'n broffesiynol ac mae cannoedd o blant a phobl ifanc wedi eu gwisgo mewn digwyddiadau dros y blynyddoedd dilynol.

Chwiliwch am gymorth

Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.

Heddlu Gwent
Gallwch riportio troseddau neu roi gwybodaeth i Heddlu Gwent fel a ganlyn:
Gwefan: Heddlu Gwent
Ffôn: 101

Fel arall gallwch riportio problemau ar dudalennau Facebook a Twitter Heddlu Gwent.

Fearless
Mae Fearless yn rhan o'r elusen Crimestoppers ac mae'n caniatáu i bobl ifanc geisio gwybodaeth a chyngor, a riportio trosedd yn ddienw.
Gwefan: Fearless
Ffôn: 0800 555 111

Connect Gwent
Connect Gwent yw gwasanaeth cymorth i ddioddefwyr Heddlu Gwent. Mae cynghorwyr cymwys ar gael i helpu dioddefwyr trosedd i fynd at y gwasanaethau cymorth gorau ar gyfer eu hanghenion.
Gwefan: Connect Gwent
E-bost: connectgwent@gwent.police.uk 
Ffôn: 0300 1232133