1 Medi 2021
AGENDA
Rhaid i'r rhai sy'n bresennol sicrhau bod penderfyniadau a thrafodaethau yn y cyfarfod yn cefnogi a pharchu:
- Blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu a Throsedd;
- Ein cyfrifoldebau o dan Safonau'r Gymraeg;
- Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant;
- Egwyddorion y Cod Moeseg: Atebolrwydd, Uniondeb, Bod yn Agored, Tegwch, Arweinyddiaeth, Parch, Gonestrwydd, Gwrthrychedd ac Anhunanoldeb.
1. Ymddiheuriadau am absenoldeb
2. Cadarnhau Cofnodion a Phwyntiau Gweithredu'r cyfarfod a gynhaliwyd ar y 7fed o Fehefin 2021.
Oherwydd y pandemig presennol, yn hytrach na chael eu cynnwys i’w trafod fel arfer ar agenda 7 Mehefin 2021, dosbarthwyd rhai adroddiadau y tu allan i’r cyfarfod er mwyn cael sylwadau arnynt. Cafodd unrhyw gwestiynau a godwyd eu casglu a’u cynnwys mewn cynllun gweithredu a anfonwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd at Heddlu Gwent am ymateb. Dylid ystyried yr ymatebion yn y cynllun gweithredu hwn ochr yn ochr â chofnodion y cyfarfod.
3.
a) Adroddiad Perfformiad Gweithredol yn erbyn Blaenoriaethau Cynllun yr Heddlu a Throsedd Chwarter 1 2021-22 - Dirprwy Brif Gwnstabl
b) Adroddiad Diweddaru'r Prif Gwnstabl
c) Adroddiad Diweddaru Rhaglen Uplift - Prif Gwnstabl
d) Adroddiad Perfformiad Safonau Proffesiynol Chwarter 1 2021-22 - Dirprwy Brif Gwnstabl/ Pennaeth Safonau Proffesiynol
e) Adroddiad Diweddaru Covid 19 -Prif Gwnstabl
f) Adroddiad Perfformiad Ariannol Chwarter 1 2021-22 Atodiad - Prif Swyddog Cyllid
g) Diweddariad ar y Cynllun Ariannol Tymor Canolig 1 - Prif Swyddog Cyllid
h) Adroddiad Rheoli Integredig Troseddwyr - Prif Gwnstabl Cynorthwyol
i) Adroddiad Blynyddol Gwirfoddolwyr- Prif Gwnstabl Cynorthwyol
j) Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg Heddlu Gwent -Dirprwy Brif Gwnstabl
k) Adroddiad Chwe-misol Stopio a Chwilio - Prif Gwnstabl
l) Adroddiad Blynyddol y Strategaeth Rheoli Fflyd 2020/21 - Prif Swyddog Cynorthwyol Adnoddau
m) Adroddiad Blynyddol Digidol TGCh- Prif Swyddog Cynorthwyol Adnoddau
4. Mae'r wybodaeth yn yr adroddiad(au) isod wedi bod yn destun gofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Diogelu Data 2018 a phrawf budd y cyhoedd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent a bernir ei bod wedi'i heithrio rhag cyhoeddiad dan Adran 7.
5.
a) Cyflwyniad ar y Briff Asesiad Strategol a'r Briff Gofyniad Strategol
b) Y Gofrestr Risg Strategol Ar y Cyd
c) Diweddariad Cydweithio - Crynodeb Gweithredol o Feysydd Gweithredol
d) Cofnodion Drafft y Cydbwyllgor Archwilio, cyfarfod 10fed Mehefin 2021, 28 Gorffennaf
6. Unrhyw Fater Arall
7. Adnabod unrhyw risgiau sy'n codi o'r cyfarfod hwn