Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi penderfynu dyfarnu Cyllid Ymyrraeth y Ddyletswydd Trais Difrifol ar gyfer 2024/2025.

Reference Number: PCCG-2024-006

Date Added: Dydd Iau, 28 Tachwedd 2024

Details:

Mae nifer o Awdurdodau Penodedig o dan y Ddyletswydd wedi cyflwyno cynigion yn amlinellu sut y byddent yn defnyddio'r cyllid i gefnogi prosiectau ymyrraeth am gyfnod o 12 mis. Mae'r Gweithgor wedi adolygu cynigion ac wedi gwneud argymhellion ynghylch sut y dylid dosbarthu'r cyllid.

Cytunwyd y dylid dyrannu i bartneriaid fel a ganlyn:

Casnewydd - £39,600

Gwasanaeth llysgennad economi'r nos yng nghanol y ddinas gyda'r nos ar nosweithiau Gwener a Sadwrn rhwng 8pm a 4am.

 

Caerffili

Prosiect Trais Difrifol Economi'r Nos i leihau trais difrifol a thrais yn erbyn menywod a merched - £4,000

Cwnsela therapiwtig arbenigol i blant sydd wedi dioddef trais rhywiol - £10,000

Rhaglen lleihau trais Street Doctors - £10,000

 

Torfaen - £18,000

Sesiynau cyfiawnder adferol pobl ifanc Play and Breakaway.

Sir Fynwy - £28,940

Atal trais difrifol mewn ysgolion.

Prosiect partneriaeth ar draws pob awdurdod lleol a Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid - £33,000

Rhaglen realiti rhithwir 'Virtual Decisions' wedi ei hanelu at ysgolion a Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid ledled Gwent gyfan.

Blaenau Gwent - £24,000

Mae cyllid wedi cael ei neilltuo ar gyfer darparu ymyraethau’r Ddyletswydd Trais Difrifol ym Mlaenau Gwent. Bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu yn y man yn amodol ar gyflwyno ac adolygu cynigion Blaenau Gwent. Os na dderbynnir unrhyw gynigion, bydd yr adnoddau sy'n weddill yn cael eu dyrannu rhwng partneriaid eraill.

 

Attachments: