Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent wedi cytuno i ddyfarnu cyllid ychwanegol i sefydliadau cam-drin domestig a thrais rhywiol sy'n gweithio yng Ngwent.
Reference Number: PCCG-2022-021
Date Added: Dydd Mercher, 26 Hydref 2022
Details:
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent yn cael dyfarniad o £159,436.04 y flwyddyn ar gyfer 2022/23, 2023/24 a 2024/25, ar gyfer gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r cyllid wedi cael ei ddyfarnu ar sail asesiad o angen a ddarparwyd ar gyfer galw; yr angen am wasanaethau i ddioddefwyr; a gwerth am arian. Bydd rhywfaint o gyllid yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol presennol sy'n cael eu hariannu gan gyllideb prif swyddfa comisiynwyr yr heddlu a throsedd.
Bydd £82,976 y flwyddyn yn cael ei ddyfarnu i Cyfannol ar gyfer gwasanaethau cwnsela yn 2022/23, 2023/24 a 2024/25
- 1 x Cwnselydd rhan amser £36,488
- 1 x Cwnselydd amser llawn £46,488
Bydd £36,785 y flwyddyn yn cael ei ddyfarnu i Llwybrau Newydd ar gyfer Gweithiwr Cymorth Trais Rhywiol Plant a Phobl Ifanc.
Mae unrhyw ddyfarniadau cyllid pellach yn cael eu hadolygu ar sail angen a galw.