Lleisiwch eich barn ynglŷn â chyllid yr heddlu yng Ngwent
Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, fi sy’n gyfrifol am bennu praesept treth y cyngor bob blwyddyn, sef yr arian mae trigolion yn ei dalu bob mis tuag at blismona. Mae bron i 40 y cant o gyllideb gyffredinol Heddlu Gwent o £73 miliwn yn dod o daliadau'r dreth gyngor lleol yn awr.
Mae ein cynllun ariannol tymor canolig yn dweud wrthym ni y bydd angen cynnydd ym mhraesept treth y cyngor o isafswm o £25 y flwyddyn ar gyfer eiddo band D arferol os yw Heddlu Gwent am geisio cynnal lefelau gwasanaeth presennol ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 a thu hwnt. Mae hyn yn golygu y byddai'r cartref cyffredin yn talu tua £2 y mis yn fwy tuag at blismona.
Mae Heddlu Gwent wedi gorfod gwneud bron i £52.8 miliwn o arbedion yn barod ers 2010 a rhaid iddo arbed rhwng £19.8 miliwn a £25.8 miliwn erbyn 2027. Heb godi praesept y dreth gyngor byddai hyd yn oed mwy o arbedion wedi gorfod cael eu gwneud.
Er mwyn gwneud y penderfyniad yma, mae'n rhaid i mi ystyried y swm o arian mae'r Prif Gwnstabl yn dweud sydd ei angen ar Heddlu Gwent i weithredu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol, y setliad ariannol blynyddol gan Lywodraeth y DU, cyllid gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Cyfiawnder. Mae’n rhaid i mi hefyd ystyried sut bydd hyn yn effeithio arnoch chi.
Mae'n benderfyniad anodd ar unrhyw adeg, yn arbennig yn awr pan mae cymaint o bobl yn ein cymunedau mewn trafferthion ariannol ac felly, cyn i mi wneud y penderfyniad rwyf am roi cyfle i chi leisio eich barn, lleisio unrhyw bryderon sydd gennych chi, neu gynnig sylwadau. Rwyf yn addo y bydd eich sylwadau'n cael eu darllen a'u hystyried, ac y byddant yn dylanwadu ar fy mhenderfyniad.
Cwblhewch yr arolwg byr hwn a lleisiwch eich barn cyn dydd Sul 9 Ionawr.