Sut I wneud cwyn yn erbyn y Prif Gwmstabl
Y Comisiynydd yw'r Awdurdod Priodol (er bod hwn wedi cael ei ddirprwyo i'r Prif Weithredwr yng Ngwent) ar gyfer ymdrin â chwynion sy'n ymwneud â'r Prif Gwnstabl.
Rhaid i gŵyn yn erbyn y Prif Gwnstabl fod ynglŷn â'i weithredoedd uniongyrchol ef neu hi. Ni ellir gwneud cwyn yn erbyn y Prif Gwnstabl os yw'r awdurdod wedi cael ei ddirprwyo i swyddog arall neu aelod arall o staff o fewn Heddlu Gwent. Rydym yn deall o safbwynt y cyhoedd bod y Prif Gwnstabl yn cynrychioli Heddlu Gwent a bod y cwynion hyn yn aml yn cael eu gwneud yn ddidwyll, ond heb ddealltwriaeth glir nad yw'r mater yn ymarferol yn ymwneud â'r Prif Gwnstabl. Yn yr achosion hyn, darperir ymateb yn esbonio na ellir ystyried y materion a godwyd yn erbyn y Prif Gwnstabl fel cwyn yn ei erbyn ef neu hi ond y byddant yn cael eu trosglwyddo i Heddlu Gwent i ystyried a ddylid gwneud cwyn yn erbyn y swyddogion neu aelodau staff sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r materion hyn. Os gellir darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol sy'n dangos bod y Prif Gwnstabl yn ymwneud â'r materion y gwnaed cwyn yn eu cylch, byddwn yn ystyried y gŵyn a wnaed yn fwy manwl.
Os oes gennych chi gŵyn yn ymwneud â’r Prif Gwnstabl anfonwch y gŵyn at y Comisiynydd trwy gyfrwng:
E-bost: commissioner@gwent.police.uk
Yn ysgrifenedig:
Prif Weithredwr
Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent
Pencadlys yr Heddlu
Llantarnam Park Way
Llantarnam
Cwmbran
Torfaen
NP44 3FW