Cofnod Datgelu Rhyddid Gwybodaeth
Mae'r adnodd ar-lein hwn yn gofnod o ymatebion i geisiadau a dderbyniwyd dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Bydd sicrhau bod yr ymatebion hyn ar gael i'r gymuned ehangach yn helpu pobl i ddeall gwaith Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn well ynghyd â deall pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chadw.
Defnyddio'r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn ymatebion sydd wedi cael eu cyhoeddi
Mae'r ymatebion sydd wedi’u cyhoeddi ar y wefan hon yn cael eu gwarchod gan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Er mwyn ailddefnyddio, er enghraifft cyhoeddiad masnachol, byddai angen caniatâd deiliad yr hawlfraint Dylid cyfeirio caniatâd i atgynhyrchu unrhyw ran o'r wybodaeth sydd wedi’i hatodi at:
Mrs Siân Curley
Prif Weithredwr
Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu
Pencadlys yr Heddlu
Croesyceiliog
Cwmbrân
NP44 2XJ
Neu drwy e-bost: commissioner@gwent.pnn.police.uk