Swyddi Gwag
Cynorthwyydd Gweithredol i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent
Cyflog: £32,247 - £34,329
Rhan/Llawn Amser: Llawn Amser
Oriau'r Wythnos: 37
Math o Gytundeb: Parhaol
Lefel o allu'n y Gymraeg sy'n angenrheidiol? 1
Dyddiad cau: 12/05/25 13:00
Ynglŷn â’r Swydd
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Gweithredol ymroddedig a rhagweithiol i roi cymorth i Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent (y Comisiynydd). Mae’r swydd yma’n ganolog i hyrwyddo rhaglen waith y Comisiynydd a chefnogi gwaith i gyflawni’r Cynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am roi cymorth gweithredol cynhwysfawr i’r Comisiynydd, rheoli dyddiadur y Comisiynydd, a hwyluso cyfathrebu effeithiol gyda rhanddeiliaid.