Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent yw Jane Mudd

Jane Mudd yw Comisiynydd Heddlu a Throsedd etholedig Gwent. Etholwyd Jane i’r swydd hon am y tro cyntaf ym mis Mai 2024, ac mae’n aelod o Gymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd (APCC) ac yn cynrychioli Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent ar fwrdd Plismona Cymru. Hi yw arweinydd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd Plismona Cymru ar gyfer partneriaethau a diogelwch cymunedol a’r arweinydd ar y cyd ar gyfer camddefnyddio sylweddau. Jane yw Cyd-gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru ac mae hefyd yn ddirprwy arweinydd cenedlaethol yr APCC ar gyfer camddefnyddio sylweddau.

Cyn cael ei hethol i’r swydd Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jane oedd Arweinydd etholedig Cyngor Sir Casnewydd, lle’r oedd yn ddeiliad y portffolio Cyllid Strategol a Thwf Economaidd. Mae Jane yn falch o fod yn un o ddinasyddion Casnewydd ac wedi ymrwymo erioed i weithio mewn partneriaeth er budd Casnewydd, a rhanbarth ehangach Gwent a Phrifddinas-ranbarth Caerdydd. Cynrychiolodd Jane Gasnewydd yng Nghabinet Prifddinas-ranbarth Caerdydd a hi oedd deiliad portffolio Data wedi’u Hysgogi gan yr Economi a Sgiliau y Brifddinas-ranbarth. Mae Jane hefyd yn Is-gadeirydd cabinet Prifddinas-ranbarth Caerdydd. Bu hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd partneriaeth economaidd drawsffiniol Porth y Gorllewin, yr oedd Casnewydd yn aelod sylfaenol ohono ac roedd hi hefyd yn aelod ac yn is-gadeirydd o fwrdd Gweithredol Key Cities.

Yn ystod ei gyrfa wleidyddol, roedd Jane hefyd yn Ddirprwy Lywydd Cymdeithasol Llywodraeth Leol Cymru a bu’n llefarydd Cyfiawnder Cymdeithasol CLlLC. Mae Jane wedi bod yn gyfrannwr allweddol at ymgyrchoedd Cwrteisi mewn Bywyd Cyhoeddus ac Amrywiaeth mewn Democratiaeth CLlLC/CLlL. Roedd hefyd yn gyd-gadeirydd CLlLC o Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru hefyd yn cynrychioli awdurdodau lleol Gwent yn y bartneriaeth hon. Roedd Jane hefyd yn brif Lefarydd CLlLC ar gyfer Digidol ac Arloesedd, yn Gadeirydd Bwrdd Arweinyddiaeth Ddigidol CLlLC ac yn aelod o Fwrdd Gwella’r Gymdeithas Llywodraeth Leol.

Mae gan Jane dros 20 mlynedd o brofiad ym maes addysg uwch ac ymchwil a chefndir mewn Tai ac Adfywio. Roedd yn Bennaeth yr Adran Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn flaenorol ac mae’n Gymrawd Hŷn o’r Academi Addysg Uwch. Mae Jane yn Gymrawd cwbl gymwysedig o’r Sefydliad Tai Siartredig, yn gyn-Gadeirydd CIH Cymru ac yn gyn-Gadeirydd Bwrdd Cartrefi Dinas Casnewydd, a gwasanaethodd yn flaenorol fel Aelod Annibynnol o Fwrdd Rheoleiddiol Cymru.

 

 


Cyflog
£73,302 y flwyddyn


Y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch


Treuliau a Gwariant