Ysbrydoli disgyblion yng Nghwmbrân
30ain Ionawr 2024
Yr wythnos hon fe wnaethom ymuno â Willmott Dixon yn ffair yrfaoedd Llwybrau'r Dyfodol yn Ysgol Croesyceiliog. Nod y digwyddiad oedd codi dyheadau disgyblion o flynyddoedd 9 i 11.
Mae Willmott Dixon yn adeiladu adeilad heddlu newydd Heddlu Gwent yn Y Fenni. Mae'r cwmni'n cynnig ystod eang o gyfleoedd gwaith mewn gwahanol grefftau yn y diwydiant adeiladu.
Yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd am swyddi yn y maes plismona, rhannwyd gwybodaeth a chyngor ar sut i roi gwybod i Heddlu Gwent am ddigwyddiadau, neu'n ddienw drwy'r elusen Fearless.