Youf Gang yn trechu cwrs antur ar gyfer elusennau
14eg Mehefin 2022
Llongyfarchiadau i Shaftesbury Youth Gang, a drechodd gwrs antur bum cilomedr o hyd ar gyfer elusennau dros y penwythnos.
Cododd y bobl ifanc £1200, sy’n gamp anhygoel, ar gyfer y ddwy elusen o’u dewis nhw, sef Children with Cancer UK ac All Creatures Great and Small Animal Sanctuary.
Mae’n bleser gen i roi cyllid i gefnogi Shaftesbury Youth Gang, sy’n ased enfawr i’r gymuned, gan gynnig cyfle i blant a phobl ifanc i roi cynnig ar brofiadau newydd, gwneud ffrindiau newydd, datblygu sgiliau newydd a magu eu hyder.