Ymweliad y Gweinidog Plismona
Yr wythnos hon cawsom ymweliad gan Weinidog Plismona Llywodraeth y DU, Chris Philp AS. Hwn oedd ei ymweliad cyntaf â Gwent ers iddo gael ei benodi i’r swydd y llynedd.
Yn ogystal â thrafod problemau lleol gyda’r Prif Gwnstabl a mi, cyfarfu â swyddogion newydd a ymunodd â Heddlu Gwent yn rhan o Ymgyrch Uplift Llywodraeth y DU, a threuliodd rywfaint o amser yn gwrando ar alwadau yn ystafell reoli’r heddlu.
Yna ymunodd â ni ar gyfer cyfarfod o Fwrdd Partneriaeth Plismona Cymru lle gwnaethom fachu ar y cyfle i ofyn am esboniad o’r cyllid i Gymru ar gyfer mentrau fel yr ardoll prentisiaethau, gwasanaethau iechyd meddwl a strategaeth cyffuriau ‘Harm to Hope’ Llywodraeth y DU.
Roedd yn gyfle da i ddangos y partneriaethau cadarn sydd gennym ni yma yng Nghymru ac edrychaf ymlaen at roi croeso i’r gweinidog eto ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.