Ymweliad y Comisiynydd â'r gweithdy fflyd
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi bod ar ymweliad â gweithdy fflyd Heddlu Gwent yn Llantarnam, Cwmbrân.
Mae'r cyfleuster yma a adeiladwyd i bwrpas yn gartref i dîm peirianwyr Heddlu Gwent ac mae'n gwasanaethu dros 500 o gerbydau.
Ei nod yw sicrhau bod Heddlu Gwent yn gallu cynnal a chadw ei gerbydau'n fewnol yn y dyfodol, sy'n arbed arian ac yn galluogi trwsio cerbydau'n gyflymach er mwyn iddyn nhw fod yn ôl ar y ffyrdd cyn gynted â phosibl.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Gwnaeth y cyfleusterau yng ngweithdy fflyd Heddlu Gwent argraff fawr arnaf ac roedd yn hyfryd cwrdd â'r staff a'r peirianwyr sy'n gweithio mor galed y tu ôl i'r llenni.
"Rhan o fy swydd fel Comisiynydd yw sicrhau bod gan Heddlu Gwent yr adnoddau angenrheidiol i wneud y gwaith gorau posibl ar ran trigolion, a hefyd bod trigolion yn cael gwerth am yr arian maen nhw'n cyfrannu at blismona trwy'r dreth gyngor bob mis.
“Ar ôl treulio amser yn y gweithdy, rwyf yn dawel fy meddwl bod gennym ni, yma yng Ngwent, dîm o bobl fedrus iawn, ar frig eu maes, yn gweithio'n galed i gefnogi ein swyddogion rheng flaen a'n cadw ni i gyd yn ddiogel."