Ymweliad ag Ysgol Islamaidd Al-Islah
4ydd Gorffennaf 2019
Aeth fy nhîm ar ymweliad ag Ysgol Islamaidd Al-Islah, sydd yn Ysgol Gynradd Pilgwenlli, Casnewydd, yn ddiweddar.
Treuliodd y tîm a swyddogion cymorth cymunedol lleol amser gyda'r plant yn ateb cwestiynau ac yn dysgu am fywyd o ddydd i ddydd yn eu cymuned. Roedd gan y plant ddiddordeb gwirioneddol mewn dysgu am y gwasanaeth heddlu a sut i ddod yn swyddog heddlu.
Mae gwella cydlyniant cymunedol wrth wraidd fy nghynllun heddlu a throsedd. Ar adeg pan mae tensiynau mewn cymunedau yn y DU mae adeiladu pontydd rhwng yr heddlu a chymunedau lleiafrifol yn bwysicach nac erioed.