Ymweliad â Theml Hindŵaidd Shree Swaminarayan
Roeddwn yn falch i ymweld â Theml Shree Swaminarayan gyda swyddogion a staff Heddlu Gwent.
Cefais groeso cynnes gan Mr Pradyuman Halai, Is-lywydd y deml.
Trefnwyd yr ymweliad gan dîm Amrywiaeth a Chynhwysiant Heddlu Gwent i ddathlu Mis Treftadaeth De Asia ac roedd yn un o gyfres o ymweliadau â mannau addoli yn ne Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r mis.
Yn ddiamau dysgodd yr ymweliad lawer i mi am grefydd a diwylliant Hindŵaidd.
Mae plismona yn ymroddedig i wella cysylltiadau yn ein holl gymunedau.
Mae dangos cefnogaeth ac ymrwymiad i ddeall gwahanol safbwyntiau yn hollbwysig wrth chwalu rhwystrau a meithrin ymddiriedaeth rhwng yr heddlu a'n cymunedau amrywiol.
Mae hefyd yn hollbwysig ein bod yn trwytho ein hunain yn ein cymdeithas amlddiwylliannol a defnyddio'r hyn rydym yn ei ddysgu i atgyfnerthu ein gwaith.