Ymweld â Tillery Action For You
Aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd i ymweld â'r fenter gymdeithasol Tillery Action For You i weld yr amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol mae'r sefydliad yn eu darparu gyda chymorth gwirfoddolwyr.
Menter gymdeithasol yw Tillery Action For You sy'n darparu cyfleoedd gwirfoddoli, treialon gwaith, cyflogaeth drosiannol, a phrentisiaethau i bobl ym Mlaenau Gwent ac o amgylch.
Cyfarfu'r Comisiynydd â rhai o'r gwirfoddolwyr sy’n gweithio ar brosiectau yn safle'r sefydliad yn Cwm.
Dywedodd: “Roedd yn wych cael mynd i ddysgu mwy am yr hyn mae'r tîm yn Tillery Action For You yn ei wneud i gefnogi'r gymuned ym Mlaenau Gwent.
Yn ystod fy ymweliad cefais gwrdd â rhai o'r gwirfoddolwyr sy'n chwarae rhan uniongyrchol yn y prosiectau cymunedol, gan gynnwys cynnal tiroedd a gwaith arall ymarferol. Roedd yn ysbrydoledig gweld eu hymroddiad a chlywed sut mae'r cyfleoedd yma'n eu helpu nhw i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol.
“Mae'r tîm yn Tillery Action For You yn gwneud gwahaniaeth go iawn trwy gefnogi pobl ar eu siwrnai i gyflogaeth, hybu hunan barch, a chryfhau'r gymuned leol."