Ymgysylltu â chyn-filwyr Sir Fynwy
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd (Swyddfa'r Comisiynydd) wedi bod yn ymgysylltu â chyn-filwyr yn Sir Fynwy.
Cyflwynodd y tîm sgwrs i aelodau Canolfan Gefnogi Cyn-filwyr Sir Fynwy, sydd wedi ei leoli yn Neuadd Ambiwlans Sant Ioan yn Y Fenni. Gwnaethant drafod rôl Swyddfa'r Comisiynydd a siarad ag aelodau am Gynllun Heddlu a Throsedd newydd y Comisiynydd a fydd yn amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer y pedair blynedd nesaf.
Lansiwyd Canolfan Gefnogi Cyn-filwyr Sir Fynwy yn 2022 ac mae'n rhoi cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog ym mhob agwedd ar eu bywydau.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae ymgysylltu â chyn aelodau ein lluoedd arfog mor bwysig. Mae'r bobl yma wedi gwasanaethu eu gwlad, gan roi eu bywydau mewn perygl i'n cadw ni i gyd yn ddiogel. Fel cymdeithas mae dyletswydd arnom ni i gydnabod eu gwasanaeth a sicrhau eu bod yn derbyn cymorth a chefnogaeth os ydynt eu hangen.
“Wrth i mi ddatblygu fy Nghynllun Heddlu a Throsedd newydd, rwyf yn awyddus i glywed gan gymaint o bobl â phosibl. Rwyf i a'r tîm wedi bod ar grwydr ledled yr ardal, yn ymweld â digwyddiadau a siarad gyda grwpiau er mwyn cael gwell dealltwriaeth o brofiadau pobl o blismona yng Ngwent. Gallwch rannu eich barn ar-lein hefyd, felly treuliwch ychydig o funudau'n cwblhau fy arolwg, lleisio eich barn, a fy helpu i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau."