Ymgysylltu â chymunedau hŷn

5ed Medi 2024

Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd wedi bod yn ymgysylltu â thrigolion hŷn ledled Gwent yr wythnos yma.

Mae'r tîm wedi ymweld â fforymau 50+ yn Y Fenni a Blaenafon i siarad â thrigolion  am ddatblygiad Cynllun yr Heddlu a Throsedd newydd y Comisiynydd, yn ogystal â phroblemau lleol a allai fod yn achosi pryder iddynt.

Mae sesiynau eraill ar y gweill ledled Gwent yn ystod yr wythnosau nesaf.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae ymgysylltu â'n trigolion hŷn mor bwysig. Mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth a phrofiadau ac yn aml maent wedi byw yn eu cymunedau am flynyddoedd lawer felly mae ganddynt ddealltwriaeth dda o'r problemau sy'n effeithio ar bobl leol.

"Mae amser o hyd i rannu eich barn a helpu i ddatblygu Cynllun Heddlu a Throsedd newydd ar gyfer Gwent, felly cymerwch ychydig o funudau i gwblhau fy arolwg a lleisio eich barn."

Lleisiwch eich barn