Ymgysylltu â chymunedau
Yr wythnos yma cawsom wahoddiad i roi cyflwyniad i Fforwm 50+ Cwmbrân, ac i siarad â thrigolion mewn bore coffi yn Neuadd y Pentref, Pandy, Y Fenni.
Roedd yn gyfle i esbonio gwaith y swyddfa, ac yn gyfle i drigolion siarad am unrhyw broblemau yn eu hardal. Gwnaethom drafod cyllideb yr heddlu ar gyfer 2024/25 hefyd ac roedd trigolion yn gallu cwblhau ein harolwg a fydd yn dylanwadu ar y penderfyniad terfynol ar y gyllideb a fydd yn cael ei wneud ar ddechrau 2024.
Mae'n ofynnol bod comisiynwyr yr heddlu a throsedd yn ymgysylltu'n rheolaidd gyda'r cyhoedd i lywio'r broses penderfynu ac mae ymweliadau fel y rhain yn un o lawer o ffyrdd rydym yn sicrhau bod trigolion yn cael dweud eu dweud. Os hoffech chi i ni ymweld â'ch grŵp chi, cysylltwch â fy swyddfa.