Ymgyrch Sceptre
Yr wythnos hon mae Heddlu Gwent yn cefnogi Ymgyrch Sceptre, wythnos o weithredu cenedlaethol i fynd i'r afael â throseddau cyllyll.
Yn ystod yr wythnos bydd Heddlu Gwent yn cynnal patrolau ledled ardal yr heddlu ac yn rhoi cyflwyniadau mewn ysgolion i godi ymwybyddiaeth o effaith ddinistriol troseddau cyllyll.
Bydd swyddogion yn ymweld â siopau lleol i siarad am y cynllun gwerthwyr cyfrifol. Sefydlwyd y cynllun hwn i sicrhau bod gan werthwyr wiriadau cadarn ar waith i wneud yn siŵr bod cyllyll yn cael eu gwerthu'n ddiogel ac nad ydynt yn cael eu gwerthu i bobl dan 18 oed.
Bydd biniau ildio cyllyll mewn pum gorsaf heddlu hefyd, er mwyn i bobl allu cael gwared ar gyllyll a llafnau peryglus neu ddiangen. Bydd y biniau yn y gorsafoedd canlynol a gellir eu defnyddio yn ystod yr amseroedd hyn:
- Canol Casnewydd: 8am - 7pm.
- Sir Fynwy: 9am - 1pm and 2pm – 4pm.
- Coed-duon: 9am - 1pm and 2pm – 4pm.
- Glynebwy: 9am - 1pm and 2pm – 4pm.
- Cwmbrân: 9am - 1pm and 2pm – 4pm.
Gofynnir i chi lapio llafnau yn ofalus cyn eu gosod yn y biniau er mwyn gallu eu tynnu'n ddiogel.
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am rywun sy'n ymwneud â throseddau cyllyll neu os oes gennych chi unrhyw bryderon, ffoniwch Heddlu Gwent ar 101 neu anfonwch neges uniongyrchol at yr heddlu ar Facebook neu Twitter. Gallwch ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 hefyd. Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.