Ymgyrch gyrru'n ddiogel yn cofnodi miloedd o droseddau
Cofnododd Heddlu Gwent dros fil o droseddau yn ystod ymgyrch gyrru'n ddiogel a barhaodd am wythnos ym mis Medi.
Nod Prosiect EDWARD, ymgyrch genedlaethol sy'n golygu Every Day Without A Road Death, yw lleihau nifer y marwolaethau ar y ffyrdd yn y DU.
Yn ystod yr wythnos, cynhaliodd Heddlu Gwent amryw o fentrau diogelwch ar draws Gwent, yn ogystal â chanolbwyntio ar weithgareddau gorfodi mewn ardaloedd allweddol.
Cofnodwyd 1022 o droseddau, gan gynnwys troseddau gwregys diogelwch, gyrru'n rhy gyflym a defnyddio ffonau symudol.
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert, yw arweinydd diogelwch ar y ffyrdd Cymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Dywedodd: "Mae Heddlu Gwent a'n gwasanaethau brys eraill yn ymdrin ag anafiadau difrifol a marwolaethau ar ein ffyrdd yn rheolaidd. Gellid osgoi pob un o'r digwyddiadau hyn.
“Yn awr, yn fwy nag erioed, mae angen i ni gadw'n ddiogel a sicrhau bod y gwasanaethau brys ar gael i'r bobl sydd eu hangen nhw fwyaf, felly byddwch yn fwy gofalus a chadwch yn ddiogel ar y ffyrdd.”