Ymgyrch Crimestoppers

23ain Medi 2024

Mae Crimestoppers wedi lansio ymgyrch newydd i wrthsefyll gangiau troseddol sy’n cam-fanteisio ar bobl ifanc ac oedolion agored i niwed.

Nod yr elusen yw codi ymwybyddiaeth o gangiau Llinellau Cyffuriau, sut maent yn cam-fanteisio ar bobl agored i niwed, a sut y gall aelodau'r cyhoedd adnabod arwyddion troseddoldeb a’i riportio.

Mae Llinellau Cyffuriau yn derm a ddefnyddir ar gyfer rhwydweithiau delio cyffuriau anghyfreithlon lle mae troseddwyr yn paratoi plant ac oedolion agored i niwed i gludo a gwerthu cyffuriau.

Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: “Mae diogelu ein plant a’n pobl ifanc, a phawb sydd mewn perygl o ymwneud â throseddau difrifol, mor bwysig. Unwaith y byddwch yn ymwneud â gang troseddol mae'n anodd iawn dianc ond, os gallwn dorri'r cylch cyn iddo ddechrau, mae gennym well obaith o ddiogelu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed rhag ymwneud â'r mathau hyn o droseddau.

“Gallai hyd yn oed y darn lleiaf o wybodaeth helpu i gadw rhywun yn ddiogel, felly os oes gennych bryderon am weithgarwch anghyfreithlon, rhowch wybod i ni. Os nad ydych yn teimlo y gallwch roi gwybod i’r heddlu, riportiwch yn ddienw i Crimestoppers.”

Riportiwch wybodaeth yn ddienw i Crimestoppers ar 0800 555 111 neu drwy wefan Crimestoppers.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob amser.